2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:24, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, wel, mae Simon Thomas, fel arfer, yn gwneud nifer o bwyntiau diddorol iawn. Rwy’n credu bod ein pen-blwydd yn Genedl Masnach Deg yn rhywbeth nad ydym ni wedi ei anghofio. Mae'n bwysig iawn ei ddathlu; rwy'n hapus iawn i ystyried beth y gallwn ei wneud i greu'r cyfle i wneud hynny. Mae'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn falch iawn ohono, ac rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr. Rwy'n sicr yn hapus i edrych ar sut y gallwn ni gynnig cyfle o'r fath.

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd eisiau rhoi diweddariad i'r Aelodau ar faterion sy'n gysylltiedig ag ysbyty'r Trallwng. Fe wnaf innau edrych gydag ef ar y ffordd orau o wneud yn siŵr bod yr wybodaeth ddiweddaraf honno yn cael ei chyflwyno. Dydw i ddim yn gwbl sicr beth yw graddau hynny, ond rwy'n hapus i archwilio sut i wneud hynny gydag ef.

O ran y morlyn llanw, cefais yr anffawd i ddigwydd clywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, y bore yma ar Radio Wales, ac roeddwn i'n meddwl bod yr hyn a wnaeth yn warthus. I ddyfynnu un o Ysgrifenyddion y Cabinet, 'â ffrindiau fel'na, pwy sydd angen gelynion?', wrth iddo dal i geisio honni ei fod ef yn gyfaill i'r lagŵn. Rwy'n credu bod ymddygiad Llywodraeth y DU yn y mater hwn wedi bod yn warthus. Roedd Adroddiad Hendry yn ei gwneud yn eithriadol o glir sut y gellid ei ddatblygu. Nid oes unrhyw esgus o gwbl ar gyfer droi yn ôl unwaith eto at ffigurau anghywir a chyfatebiaethau gwael. Mae'r syniad bod rhywun erioed wedi cynnig cymhariaeth debyg am debyg â Wylfa a, rywsut neu'i gilydd, os byddwch chi'n cynnwys Wylfa Newydd ar sail wahanol, yna bydd y morlyn llanw o reidrwydd yn syrthio, neu, yn wir, bydd unrhyw fath o fuddsoddiad yng Nghymru yn gwneud y tro, ac os yw yng Nghymru, mae'n rhaid bod y pethau hyn yn eithaf agos at ei gilydd ta beth, felly does dim ots wir os yw hyn yn y gogledd neu yn y de, sef yr argraff llethol a gefais o'r hyn yr oedd yn ei ddweud, nid yw hynny'n ddigon da.

Rydym ni'n hynod o falch o'r hyn yr ydym wedi'i wneud i geisio sicrhau bod y morlyn llanw yn mynd rhagddo. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny o ddifrif calon. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud ei farn yn glir iawn, yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac o ganlyniad i hynny. Byddaf yn gwneud yn siŵr y caiff ei ddosbarthu i'r holl Aelodau, naill ai drwy ei roi yn y Llyfrgell neu drwy ryw ddull arall. Mae ar gael. Mae'n llythyr cyhoeddus. Rydym ni'n falch iawn o allu cefnogi'r morlyn. Rydym ni'n drist iawn y bu angen llythyr o'r fath heddiw. Fe ddywedaf i, er hynny, wrth gwrs, nad ydym ni wedi cael penderfyniad o hyd. Yr hyn yr ydym ni wedi'i gael yw llwyth o bethau wedi'u gollwng, a sïon, ac Ysgrifenyddion Gwladol yn mynd ar y radio i ddweud pethau, ond mewn gwirionedd nid ydym ni wedi cael unrhyw benderfyniad. Felly, byddwn i'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y dicter aruthrol a deimlir, mewn gwirionedd, tuag at y penderfyniad arfaethedig, yn gwneud iddynt feddwl ddwywaith ac y gallwn ni gael y penderfyniad iawn yn wir. Ond yn sicr rydym ni yn gefnogol iawn ohono, a byddaf i yn sicr yn archwilio yr hyn y gallwn ni ei wneud i wneud yn siŵr y gall Aelodau fynegi eu barn ar y pwnc yn rymus iawn.