Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Mehefin 2018.
Ie, o ran yr ail un, rwy'n credu y byddem ni'n falch iawn o gyflwyno dadl ar gyflwr carchardai o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw. Mae'r rheiny ohonom sydd â charchardai yn ein hetholaethau, ac rwyf i'n un ohonynt, yn gwybod yn iawn am gyflwr carchardai a'u problemau o ymweld â nhw. Bu'n uchelgais ers tro byd gan ein Llywodraeth i ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru ac un o'r rhesymau gwirioneddol dros hynny yw, mewn gwirionedd, bod y polisïau dedfrydu a arferir gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd yn arwain at lawer o'r problemau hynny y mae Leanne Wood yn tynnu sylw atyn nhw. Nid yw'n ymwneud dim ond â beth sy'n digwydd i bobl pan fyddan nhw'n mynd i'r carchar; mae'n ymwneud â pham maen nhw yn y carchar yn y lle cyntaf ac a yw hynny'n gwbl effeithiol, a beth yw diben, mewn democratiaeth fodern, carcharu cymaint o ddynion ifanc dosbarth gweithiol mewn gwirionedd.
Ac, i ddefnyddio iaith anseneddol iawn, peidiwch â hyd yn oed dechrau sôn am sefyllfa menywod mewn carchardai, oherwydd dadl arall yw honno. Rwy'n credu bod fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd Cabinet a fi wedi cael llawer o drafodaethau ynghylch hyn a byddwn i'n fwy na pharod i gael y ddadl honno, oherwydd bod amrywiaeth o faterion sy'n cyfrannu at y sefyllfa niweidiol a welir yn ein carchardai, yn arbennig yng ngharchar y Parc sydd wedi'i breifateiddio. Felly, mae gen i lawer o gydymdeimlad tuag at hynny ac mae gennym ni lawer i'w drafod yma yn Llywodraeth Cymru ynghylch yr amwysedd o ran y setliad datganoli a'r anawsterau y mae hynny'n eu cyflwyno o ran yr hyn y gallwn ni ac na allwn ni ei wneud ar hyn o bryd a pham mae angen i ni gytuno ar y setliad datganoli yn hynny o beth.
O ran yr etholwr â phroblemau cymhleth gyda'r taliad annibyniaeth personol, rwy'n teimlo'n fawr iawn drosti. Mae gen i gymhorthfa yn llawn o bobl â phroblemau tebyg yn aml iawn. Nid oes dim amheuaeth o gwbl bod y rhaglen gyni y mae Llywodraeth bresennol y DU yn ei dilyn yn achosi dioddefaint difesur i unigolion ledled Prydain, gan gynnwys yng Nghymru. Rwy'n anghytuno â hi ynghylch datganoli lles. Rwy'n credu mai un o unig ddibenion y DU yw ailddosbarthu cyfoeth o'r de-ddwyrain a Llundain. Mae'n drueni mai Llywodraeth Dorïaidd sy'n gyfrifol amdano ar hyn o bryd ac nad oes ganddi unrhyw ddiben o'r fath. Nid wyf yn sicr a fyddai gweinyddu system warthus ag ychydig iawn o'r arian a'r empathi ynddi yn lleddfu'r sefyllfa ryw lawer, mewn gwirionedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn, hyd eithaf ein gallu, i helpu pobl, ac mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â pham mae'n ymddangos yn ddeniadol gwneud hynny ac mae gen i lawer o gydymdeimlad â phobl sydd wedi'u dal yn y system. Ond rwyf i'n annog Llywodraeth y DU i roi'r gorau i'w rhaglen gyni oherwydd fy mod i'n credu bod y dewis gwleidyddol hwnnw wrth wraidd y gwahaniaethu y mae pobl ag anableddau yn ei ddioddef yn y DU heddiw.