2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:48, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, daeth menyw a oedd eisiau cymorth ag asesiad taliad annibyniaeth personol ei mam i fy ngweld i. Mae'r fam, sydd wedi goroesi cam-drin domestig, yn dioddef amryw o gyflyrau parhaus o ganlyniad i ymosodiad treisgar gan ei phartner yn ôl yn 2009. Mae arthritis arni, mae ganddi amrywiaeth o gyflyrau croen, problemau â'i horganau mewnol, ar ôl dioddef ymosodiad treisgar â morthwyl a chyllell Stanley a'i gadael i farw. A hawdd yw deall ei bod hi hefyd yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma.

Nawr, gwnaeth aelod o staff Capita weiddi arni wrth geisio trefnu ymweliad cartref ar gyfer yr asesiad PIP hwn. Mae Capita wedi derbyn bod angen ymweliad cartref erbyn hyn, ond nid ydyn nhw'n gallu rhoi amser addas oherwydd apwyntiadau meddygol sydd ganddi eisoes, ac os na fydd yr ymweliad nesaf hwn yn digwydd, mae'n bosibl y bydd hi'n colli'r taliadau annibyniaeth personol, y taliadau y mae hi'n disgwyl eu cael.

Nawr, ni ellir gwadu natur greulon a dideimlad y system fudd-daliadau, a phan fyddwch yn clywed hanesion dirdynnol o'r fath yn eich cymhorthfa yn eich etholaeth chi, gallwch chi weld wyneb dynol y trychineb hwnnw'n drosoch eich hun. Nid hon yw'r ffordd y dylai'r wladwriaeth drin merch sydd wedi ei thrin yn y ffordd hon. Byddai datganoli lles yn galluogi Llywodraeth Cymru i liniaru llawer o'r problemau sy'n gysylltiedig â'r system ddideimlad hon. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ gyflwyno dadl neu ddatganiad ar beth y gall y Llywodraeth hon ei wneud i liniaru'r boen ofnadwy a'r dioddefaint a ddaw yn sgil y system lles bresennol?

Mae gen i ail fater hefyd, ac mae hynny'n ymwneud ag adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru a gyhoeddwyd heddiw, gyda Phrifysgol De Cymru, ar gyflwr carchardai yng Nghymru. Daeth i'r casgliad bod diogelwch a chyflwr carchardai yma yn waeth o lawer na'r rhai yn Lloegr, ac, yn wir, mae nifer yr achosion o hunan-niweidio ac ymosodiadau carchar a gofnodwyd yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag mewn carchardai yn Lloegr ers 2010, ac roedd mwy o helbulon carchar yn HMP Parc yn 2016 a 2017 nag mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr. Mae miloedd o swyddi swyddogion carchar wedi'u dileu, maen nhw'n wynebu gostyngiad mewn cyflogau mewn termau real, ac mae staff a throseddwyr yn agored i berygl o ganlyniad i hyn. Dylai penderfyniadau ar gyflwr carchardai yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru ac mae'r dystiolaeth hon yn gwneud hynny'n glir. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ gyflwyno dadl ar gyflwr carchardai yng Nghymru a sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod dinasyddion sy'n gweithio fel staff carchardai, neu'r rhai sydd wedi'u dal yn droseddwyr, yn gallu gweithio neu dreulio'u dedfrydau mewn amgylchedd diogel?