Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 5 Mehefin 2018.
Felly, Plaid Cymru yn gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru—mae’r cyd-destun yn eithaf pwysig yma. Llywodraethau olynol Llafur a Cheidwadol y DU sydd wedi gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru: y Ceidwadwyr, sydd yn ddiweddar wedi camu'n ôl ar drydaneiddio; 13 blynedd o Lywodraethau Llafur cyn hynny a fethodd â gwneud dim trydaneiddio, gogledd, de, dwyrain neu orllewin; Llywodraeth Lafur—rwy’n meddwl fy mod yn iawn—a’n gadawodd â masnachfraint chwerthinllyd Arriva heb unrhyw dwf o gwbl—chwerthinllyd, hynny yw, pe na bai mor ddifrifol i filoedd o gymudwyr rheilffyrdd y Cymoedd sydd wedi’u gwasgu ar drenau, ddydd ar ôl dydd, neu deithwyr o’r gogledd i’r de sy’n eistedd am bump awr ar drenau sydd wir yn fwyaf addas i siwrneiau hanner awr neu awr. Felly, ydym, rydym ni i gyd yn llawn cyffro am y posibilrwydd o drenau newydd, mwy ffres. Roeddwn ar y pwyllgor menter a busnes yn y Cynulliad diwethaf pan fuom yn ystyried, yn fanwl iawn, sefyllfa enbyd—cyflwr enbyd, a dweud y gwir—y system rheilffyrdd presennol sydd gennym ni yng Nghymru. Mae teithwyr yn gwybod ei bod hi'n hen bryd inni gael trenau gwell, oherwydd maen nhw wedi gweld lluniau o'r hyn sydd ganddyn nhw mewn gwledydd eraill—maen nhw wedi bod ar wyliau ac maen nhw wedi teithio ar drenau sy’n addas i’r ganrif hon yn hytrach na chanol y ganrif ddiwethaf. Felly, byddwn yn annog y Llywodraeth i fod yn realistig yn eich disgwyliadau ynghylch pa mor ddiolchgar y dylai pobl fod am yr hyn sydd gennym yn awr, neu’r hyn sy'n cael ei addo ar ôl iddyn nhw ddioddef y gwasanaeth presennol ers cyhyd.
Nawr, wrth ddarllen rhannau o’r datganiad a gyhoeddwyd gennych chi ddoe—ac rydym ni'n ddiolchgar am y datganiad hwnnw—mae elfen o dristwch mewn llawer ffordd. Mae ansawdd y fargen fasnachfraint yn bwysig iawn, iawn. Nid oedd y fargen fasnachfraint ddiwethaf yn ddigon da am lawer o resymau. Dywedwyd wrthym 15 mlynedd yn ôl ein bod yn cael trenau nad oeddent yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain—mae’r trenau hynny’n dal i fod gennym ni heddiw. Hyd yn oed nawr rydym yn cael clywed y bydd un o bob 20 o deithiau, am rai blynyddoedd i ddod, yn dal i gael eu gwasanaethu gan yr hen gerbydau rhydlyd, tolciog sydd gennym ni ar hyn o bryd—[Torri ar draws.] Wel, gallwch egluro hynny, ond rydych chi'n sôn am 95 y cant yn teithio ar drenau newydd ymhen ychydig flynyddoedd—mae hynny’n dal i adael un o bob 20 ar y cerbydau hen iawn o’r ugeinfed ganrif sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rydych chi'n dal i orfod aros tan 2020, i gael cyflenwad pŵer i wefru ar drenau, dywedodd y datganiad ddoe wrthym. Ac, unwaith eto, ni fydd gan un o bob 20 siwrnai yr anghenraid sylfaenol hwnnw.
Roedd yn bwysig iawn dysgu o gamgymeriadau’r fasnachfraint diwethaf a gwneud yn siŵr nad oeddent yn cael eu dyblygu y tro hwn, ac nid wyf yn gwbl argyhoeddedig, eto, bod y gwersi hynny wedi cael eu dysgu. Dywedasoch yn eich datganiad fod arlwyo ar y trenau’n dal i fod yn un o nodweddion allweddol gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Bydd unrhyw un sy'n teithio o’r gogledd i’r de yn dweud wrthych—ar wahân i’r un trên y dydd, un tua'r gogledd ac un tua'r de, sydd â chyfleusterau bwffe priodol—bydd unrhyw un sy'n teithio ar y trenau arferol, o’r gogledd i’r de, yn dweud wrthych nad yw’r trenau’n addas i’r teithiau hir hynny—pump awr yn teithio ar drenau sy’n addas i deithiau byr iawn. Es ar y trên ym Modorgan—byddwn yn annog unrhyw un i fynd ar y trên ym Modorgan, mae'n orsaf mewn cae yng nghanol Ynys Môn; rwy'n teimlo'n falch iawn o’n gorsaf fach ni, ond mae'n ddwy awr a hanner dda neu’n dair awr cyn inni gael cynnig paned o de. Ac rwy’n cofio gofyn i Arriva, 'Pam nad yw’r troli te’n dod ymlaen tan Amwythig?' a'r ateb a gefais oedd, 'gan fod y cytundeb masnachfraint yn dweud na ddylai’r troli te ddod ymlaen tan Amwythig.' Felly, mae cael y cytundeb masnachfraint yn iawn yn gwbl hanfodol. Felly, pan ddywedwch chi, yn y fargen fasnachfraint newydd sbon danlli hon,
'Bydd lefel y gwasanaeth yn cadw o leiaf at ei lefel bresennol', mae hynny’n codi arswyd arnaf am fy siwrneiau o—. Mae hyn yn eich datganiad; rwy’n dyfynnu o'ch datganiad ddoe. Mae hynny'n codi arswyd ar bobl, oherwydd hoffai pobl ddefnyddio mwy ar y trenau ar gyfer teithiau rhwng y gogledd a'r de, ac mae pobl yn chwilio am wasanaeth gwell. Cael gwybod bod y ddarpariaeth bresennol o bethau fel cwpanaid o de, gwydraid o ddŵr, ar daith pum awr; ddylai hynny ddim bod yn ormod i ofyn amdano yn yr unfed ganrif ar hugain.
Gadewch imi ofyn am eich barn, hefyd, am gyfraniad y system newydd ar gyfer dod â Chymru ynghyd. Nid symud pobl o A i B yw unig swyddogaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Does bosib na ddylai ein system rheilffyrdd newydd, flaengar ar gyfer Cymru fod yn seiliedig, yn y bôn ar ddod ag A a B yn nes at ei gilydd, gan adeiladu rhwydwaith sy'n clymu gwahanol rannau o Gymru at ei gilydd. Ychydig iawn yr wyf yn ei weld yn y rhestr honno o welliannau a gyhoeddwyd ddoe sy’n dangos inni ein bod yn creu system rheilffyrdd go iawn i Gymru gyfan. Wrth gwrs ceir gwelliannau—rwy’n gweld y cynnydd yn nifer y trenau ar lwybrau penodol, ar lawer o wahanol lwybrau, a gwelliannau i gymudwyr, a threnau newydd—ac mae hynny'n wych, ond ble mae creu system rheilffyrdd i Gymru gyfan?
O ran elw, i ddilyn y sylwadau a wnaeth Leanne Wood yn gynharach, ni ddylid bod wedi preifateiddio’r rheilffyrdd fel y digwyddodd, ond maen nhw wedi’u preifateiddio. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw rheolaeth gyhoeddus go iawn dros yr arian sy'n llifo drwy’r system reilffyrdd. A allech roi mwy o sicrwydd inni ynglŷn â sut yr ydym ni'n cyfuno perfformiad gwell, yr ydym yn gobeithio ei gael gan y gweithredwr newydd, â sut yn union y caiff yr arian a gawn ni o’r perfformiad newydd hwnnw ei ailfuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd? Dyna’r mathau o eglurhad sydd eu hangen arnom ni nawr. Gwnaethom golli rheolaeth dros y rheilffyrdd; aeth y rheilffyrdd yn beiriant pres. Roedd cwmnïau’n gallu gwneud elw—maent yn dal i allu gwneud elw. Mae angen inni wneud yn siŵr bod hyn yn hollol ddiogel, ac rwy’n dal i aros i glywed bod hyn yn rheolaeth gyhoeddus lwyr dros y rheilffyrdd yng Nghymru.
O ran gweithredwyr rheilffyrdd nid-er-elw, dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, 'Wel, ni allwn ei wneud. Mae'r gyfraith yn dweud na allwn ni gael system rheilffyrdd gyhoeddus.' Yr hyn y gallwn ei gael, wrth gwrs, a gwnaethom ymchwilio i hyn y tro diwethaf—[Torri ar draws.] Diolch am yr awgrym mai dim ond ychydig eiliadau sydd gennyf ar ôl. Buom yn edrych yn y pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf ar y posibilrwydd o greu cyfrwng nid-er-elw, sy'n sicr yn rhywbeth a ganiateir o dan y ddeddfwriaeth. A allwch chi ddweud wrthyf, fel cwestiwn olaf, pa ymdrechion a wnaeth y Llywodraeth i edrych ar y posibilrwydd o ddarganfod, datblygu, ceisio cyfrwng i ddarparu rheilffyrdd nid-er-elw? Os gwnaethoch chi geisio a methu, pam rhoi yn eich maniffestos yr hoffech chi gael system nid-er-elw? Os na wnaethoch chi geisio o gwbl, wel, beth ar y ddaear yr oeddech yn ei wneud, yn ei roi yn eich maniffestos? Fe adawaf bethau fel yna. Diolch, Llywydd.