3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd a Metro De Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:18, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad? Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod ei neges yn anghyson braidd â’r neges a roddwyd yn gynharach gan arweinydd ei blaid, o ran croesawu'r cytundeb masnachfraint. Dylwn nodi bod arweinydd Plaid Cymru wedi disgrifio’r trefniadau newydd yn gynharach y prynhawn yma yn rhai ‘eilradd’.

Mae'n amlwg mai sefyllfa Plaid Cymru, o ran gosod y fasnachfraint hon, yw na fydden nhw wedi bod mewn unrhyw sefyllfa, pe baen nhw mewn grym, i wneud dim ond parhau â’r trefniadau masnachfraint presennol, oherwydd yn syml—[Torri ar draws.] Oherwydd yn syml nid yw'n bosibl sicrhau bod corff cyhoeddus yn gallu cynnal y rhwydwaith rheilffyrdd presennol yn ôl y gyfraith. Rydym ni wedi ceisio newid y gyfraith honno, fel y mae pob plaid yn ei gydnabod. Gallai fod wedi digwydd—gallai mudiad nid-er-elw fod wedi ennill y contract pe baen nhw wedi gwneud cynnig, ond ni ddigwyddodd hynny, ac yn amlwg byddai gwladoli'n dal i fod yn well gennym. Fodd bynnag, o fewn y cyfyngiadau yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddynt, rydym ni'n credu mai hon, o bell ffordd, oedd y fargen orau y gellid bod wedi ei tharo.

Yn wir, ymrwymodd Aelodau Plaid Cymru i adroddiad yn ddiweddar a oedd yn dweud, pe baem ni yn cyrraedd y pwynt lle’r ydym ni heddiw, y byddem ni wedi cyflawni uchelgais arwrol. Rydym ni wedi gwneud hynny, ac o fod â’r safbwynt hwnnw—un sydd mor ddi-ildio nes nad ydynt yn cydnabod bod angen inni fod yn bragmatig o ran dyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd—mae'n awgrymu mai'r unig ffordd ymlaen i Blaid Cymru fyddai wedi bod i barhau gyda’r trefniadau presennol, a byddai pris hynny wedi bod yn enfawr: 16 y cant yn uwch o ran cymorthdaliadau. Felly, byddai Plaid, dros 15 mlynedd, wedi talu pris sy’n cyfateb i fwy na £300 miliwn ychwanegol: 16 y cant yn fwy. Rydym ni'n mynd i arbed 16 y cant o ganlyniad i'r cytundeb yr ydym ni wedi’i daro, a byddai’r gwasanaethau gwael y mae Aelodau eisoes wedi sôn amdanynt wedi parhau ac, wrth gwrs, bydd dros £28 miliwn o elw yn cronni bob blwyddyn. Mae hynny'n ffaith, pe baech chi wedi parhau gyda'r trefniadau presennol, a dyna’r unig beth y gallech fod wedi ei wneud, yn seiliedig ar eich dadl bresennol.

Os na all Plaid Cymru groesawu’r ffaith ein bod wedi cyflawni’r hyn a ddisgrifiodd eu Haelodau eu hunain yn uchelgais arwrol, yna does bosib—does bosib—na ddylai fod rhyw gydnabyddiaeth o'r manteision enfawr a ddaw i Gymru o ganlyniad i'r fasnachfraint newydd hon: £800 miliwn yn fwy ar gerbydau; £194 miliwn yn fwy ar orsafoedd; tocynnau hanner pris i bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed; hanner y trenau’n cael eu hadeiladu yng Nghymru. Rwy’n meddwl ei bod hi'n bryd cydnabod ein bod, weithiau, yn llwyddo. Rydym ni yn llwyddo ac rydym ni wedi llwyddo. Rydym ni wedi llwyddo i gyflawni trefniant masnachfraint ardderchog ar gyfer pobl Cymru.

Codwyd elw fel mater yn gynharach, a gan yr Aelod nawr. Roedd sôn am elw o 3 y cant yn gynharach, a 2.9 y cant. Wel, os edrychwch chi ar yr hyn y mae Arriva wedi bod yn ei wneud o ran elw: mae’r elw cyn treth yn ddiweddar wedi cyrraedd cymaint â 18.6 y cant; elw ar ôl treth, 6.9 y cant; talu difidendau o £20 miliwn i'r rhiant gwmni; buddsoddi dim ond £3 miliwn mewn—[Torri ar draws.]

Nid ni a lofnododd y contract hwnnw. Nid Llafur—. Corff cyhoeddus anadrannol oedd hwnnw. Gwnaethant gamgymeriad. Gwnaethant gamgymeriad, ac rwyf ar goedd droeon yn dweud eu bod wedi gwneud camgymeriad. Hoffwn pe bai’r rheini ar yr ochr honno i'r Siambr yn cyfaddef eu bod wedi bod yn barod iawn i feirniadu'r ffordd yr ydym ni wedi mynd ati i gaffael yr ymarfer hwn ar sawl achlysur, ond nawr yw'r amser i edifarhau oherwydd rydym ni wedi cyflawni hyn dros bobl Cymru.

Ac o ran y gweithredwr a'r partner datblygu’n gwneud elw, wel, mae'n ddiddorol, oherwydd mae gan Keolis ac Amey ill dau hanes rhagorol o ran cyflawni. Os edrychwch chi ar fodlonrwydd cwsmeriaid, yn wir, y ddau rwydwaith sy’n perfformio orau ar hyn o bryd yn y DU, o ran boddhad cwsmeriaid, yw rheilffordd ysgafn y dociau a system fetro Manceinion—Keolis sy’n gweithredu’r ddau. Ac o ran Amey: hanes rhagorol, fel y dylai’r Aelod wybod, oherwydd un o'r sefydliadau y maent yn gweithio iddynt yw Cyngor Ynys Môn o dan reolaeth Plaid.

O ran ansawdd, ac mae’r Aelod yn hollol gywir i ddweud bod ansawdd y ddarpariaeth yn hollbwysig—gwnaf faddau iddo am beidio â bod wedi darllen y briff i gyd, oherwydd mae llawer iawn o wybodaeth yno—ond dywedodd y bydd yn rhaid i bobl deithio ar y cerbydau rhydlyd sydd gennym ni nawr. Roedd y datganiad yn dweud bod pob trên yn mynd i gael ei ddisodli, ac y bydd 95 y cant o’r holl deithiau teithwyr yn cael eu gwneud ar gerbydau newydd sbon erbyn 2023. [Torri ar draws.] Na, dywedodd yr Aelod y byddwn yn dal i weithredu cerbydau rhydlyd sydd gennym nawr. [Torri ar draws.] Na.