3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd a Metro De Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:09, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy’n mynd i ddechrau, os caf, drwy gyfeirio at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw i awgrymu rywsut bod Plaid Cymru wedi gwneud tro gwael â rheilffyrdd Cymru. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn llawn cyffro am y posibilrwydd o gael trenau mwy gweddus, gobeithio, ar ryw adeg. Nid oes gennyf amheuaeth bod KeolisAmey wedi llunio cynnig trawiadol iawn, ac rwy’n eu llongyfarch am sicrhau’r fargen broffidiol hon. Felly, ai—[Torri ar draws.]