Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 5 Mehefin 2018.
Os caf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet—. Mae e newydd grybwyll rhai o'r ffyrdd y gall y fasnachfraint newydd arbed ar garbon; a wnaiff e gadarnhau yn benodol y byddwn ni'n gweld trenau sy'n defnyddio hydrogen fel rhan o'r cynllun yma dros y 15 mlynedd nesaf? Mae trenau o'r math eisoes yn rhedeg yn rhanbarthau o'r Almaen, ac mae'n ffordd, fel mae e wedi awgrymu, o neidio heibio'r cwlwm trydaneiddio sydd gyda ni ar hyn o bryd a chyflwyno rhywbeth gwell yn syth bin i bobl yng Nghymru.
Yr ail beth rydw i eisiau jest gofyn iddo fe yw ynglŷn â'r seilwaith ariannol sydd tu ôl i hwn i gyd. Rydym ni'n gwybod rhywfaint—nid y cyfan, achos mae'n fasnachol—ynglŷn â chostau, ond ddydd Gwener gwnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â thaliadau mynediad ar gyfer y rheilffyrdd, ac roedd e'n dda gennyf weld eich bod chi wedi dod i gytundeb erbyn hyn gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ond nid yw manylion y cytundeb ar gael eto. A wnewch chi gadarnhau pryd fydd y manylion a'r cytundeb yn cael eu cyhoeddi fel bod modd i ni graffu ar hynny? Byddwch chi'n cofio, wrth gwrs, os nad ŷch chi'n dod i gytundeb, i bob pwrpas, y byddwch chi'n talu £1 biliwn dros 15 mlynedd er mwyn cael y mynediad o dan y system bresennol. Rydych chi'n dweud bod hynny'n dod i ben—grêt—ond rydych chi hefyd yn dweud eich bod chi wedi gorfod cytuno, o dan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol, i dalu dros £100 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. O ystyried bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ond yn rhoi £125 o miliwn tuag at fetro'r de, mae hynny'n enghraifft, mae'n amlwg i fi, o roi mewn un llaw a chymryd gyda'r llaw arall. Nid yw Llywodraeth Cymru ddim fawr well o gyfraniad gan y Llywodraeth sydd yn dal yn gyfrifol—gan nad ydyn nhw wedi datganoli rheilffyrdd—am y rheilffyrdd drwy'r Deyrnas Gyfunol. A fedrwch chi jest rhoi bach mwy o gnawd ar y symiau hynny, a hefyd esbonio pryd byddwch chi'n cyhoeddi'r datganiad a chytundeb yn llawn, fel bod cyfle i ni, efallai, graffu yn ofalus iawn ar y cytundeb ariannol yma?