Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 5 Mehefin 2018.
Ers 2015 bu buddsoddi parhaus yn yr ystâd a'r gwasanaethau i sicrhau gofal iechyd gwell a mwy hwylus i drigolion y gogledd, gyda nifer o'r rhain wedi neu ar fin cael eu cwblhau.
Mae disgwyl i'r gwaith ailwampio sylweddol parhaus, sy'n cynnwys dros £160 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar safle Ysbyty Glan Clwyd, gael ei gwblhau'n llawn ym mis Rhagfyr eleni, ac mae disgwyl i'r ganolfan is-ranbarthol ar gyfer gofal dwys i'r newydd-anedig ar y safle gael ei hagor yn llawn yr haf hwn. Darparwyd cyllid cyfalaf o bron i £14 miliwn i ailgynllunio, ymestyn a gwella yr adran argyfwng a gofal brys yn Ysbyty Gwynedd. Buddsoddwyd hefyd mewn dwy theatr fodiwlaidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac mewn gwelliannau amgylcheddol i wardiau iechyd meddwl yn rhan o'r ymgyrch i wella safonau gofal.
Yn ddiweddar cyhoeddais £2.2 miliwn o gyllid i drosi theatr yn Ysbyty Glan Clwyd yn theatr hybrid ble byddai modd cyflawni llawdriniaethau fasgwlaidd cymhleth. Bydd hynny'n dod â manteision i gleifion, ac mae eisoes yn gwneud y Bwrdd Iechyd yn fwy deniadol o ran recriwtio meddygon ymgynghorol, gyda phum ymgynghorydd fasgwlaidd wedi eu penodi yn llwyddiannus a gwelliannau mewn hyfforddiant llawfeddygol.
Nid mewn ysbytai yn unig mae arian cyfalaf yn gwneud gwahaniaeth, wrth gwrs. Mae buddsoddiadau mewn gofal sylfaenol yn cefnogi blaenoriaethau i wella iechyd holl drigolion y gogledd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a darparu gofal i bobl yn agosach at gartref. Darparwyd dros £14 miliwn i ddatblygu canolfannau gofal cymdeithasol yn y Fflint, Blaenau Ffestiniog a Thywyn sy'n darparu amrywiaeth o gyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector integredig i gyd yn yr un lleoliad.
Fodd bynnag, er gwaethaf y buddsoddiad a'r cynnydd mewn rhai meysydd allweddol, mae heriau sylweddol yn parhau, fel yr adroddwyd yng nghanfyddiadau adolygiad Deloitte ac, yn wir, yn adroddiad HASCAS. Amlygodd y ddau bryderon parhaus ynghylch llywodraethu, arweinyddiaeth glinigol ac ailddylunio gwasanaethau. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymyrryd yn fwy dwys ym maes cyllid a rhai meysydd Perfformiad oherwydd pryderon sylweddol o ran amseroedd aros am driniaeth, gofal heb ei drefnu a chynllunio a rheoli ariannol. Rwyf yn hynod bryderus am y dirywiad mewn perfformiad yn y meysydd hyn, ac wedi fy nghythruddo yn gyffredinol ag arafwch y cynnydd gan y Bwrdd Iechyd yn cyrraedd y cerrig milltir a nodwyd ar gyfer rhan gyntaf y flwyddyn galendr hon a'r diffyg eglurder parhaus ynglŷn â'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Roeddwn bob amser yn glir iawn y byddai angen newid diwylliant sylweddol ar y trawsnewidiad ym mwrdd Betsi Cadwaladr er mwyn gweithio mewn partneriaeth, yn allanol ac yn fewnol. Bydd hyn yn gofyn am bwyslais parhaus ar ymwneud rhwng y bwrdd a wardiau a chefnu ar ddiwylliant o wrthwynebiad sylfaenol i gysondeb mewn arferion clinigol mewn amrywiaeth o leoliadau, gyda goruchwyliaeth broffesiynol ac arweinyddiaeth glinigol gadarn. I gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer ei phoblogaeth, mae angen i'r Bwrdd Iechyd weithio mewn ffordd systematig, mewn partneriaeth fel un sefydliad yn lleol a rhanbarthol, a chwarae rhan lawn yn genedlaethol.
Yn ystod fy ymweliadau a'm cysylltiadau rheolaidd â'r Bwrdd Iechyd, rwy'n parhau i ryfeddu at ymrwymiad a gwaith caled y staff i ddarparu gofal cleifion o safon mewn amgylchedd heriol ac yng nghyd-destun adroddiadau a sylwadau negyddol amlwg a blaenllaw. Rwyf o ddifrif ynglŷn â lles ein staff yn y GIG. Er bod cyfraddau salwch ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn is na'r sefyllfa yn y GIG ledled Cymru am nifer o flynyddoedd, a'i fod yn gweithredu ystod o fentrau i gefnogi staff, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd a'r undebau llafur ynglŷn â sut y gallwn ni roi gwell cefnogaeth i'n staff.
I sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cyflawni ei ddisgwyliadau tymor byr a thymor canolig yn gyflym, gan gynllunio a chynnal y broses o drawsnewid, cyhoeddais ar 8 Mai eleni y fframwaith gwella mesurau arbennig. Mae hwn yn nodi cerrig milltir ar gyfer y 18 mis nesaf mewn pedwar maes allweddol: arweinyddiaeth a llywodraethu; cynllunio strategol a chynllunio gwasanaethau; iechyd meddwl; a gofal sylfaenol, gan gynnwys gofal y tu allan i oriau. Rwy'n disgwyl cynnydd gweladwy cyn yr haf o ran disgwyliadau'r fframwaith, gan gynnwys lleihau amseroedd aros, cytuno ar ymatebion i'r argymhellion a nodir yn adroddiadau HASCAS ac Ockenden a gweithredu hynny, bod wedi recriwtio i swyddi allweddol, bod â'r capasiti a'r gallu ychwanegol sydd eu hangen, a bod y camau gweithredu yn cael effaith gadarnhaol.
I gefnogi'r gwelliannau a sbarduno'r gwaith yn y tymor byr a chanolig, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth mwy dwys, gyda thîm i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd, ac adnoddau ychwanegol i wella amseroedd aros ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys cymorth ychwanegol o ran arweinyddiaeth system, trosiant a gallu gweithredol. Byddwn hefyd yn cynyddu'r hyn y mae'r GIG yn ei wneud ac yn cyllido unedau ymyriadau cyflenwi i gynnwys aelodau unedol unigol yn darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar gynlluniau, gwybodaeth ac arfer gorau. Bydd cymorth cynghori hefyd yn parhau o dan y trefniadau mesurau arbennig.
Caiff y cymorth dwys i ddechrau ei gyfeirio at gefnogi gwell llywodraethu ac atebolrwydd, cydweithio penodol gyda chlinigwyr a phartneriaid i ddarparu gwelliannau sylweddol, yn enwedig mewn gofal wedi'i gynllunio a heb ei drefnu, cyflawni o ran trosiant ariannol a gweithio tuag at ddatblygu cynllun tymor canolig integredig ar gyfer 2019-2022. Bydd cymorth gan gynghorwyr yn cynnwys canllawiau parhaus ar arweinyddiaeth a llywodraethu gan David Jenkins ac Emrys Elias ynglŷn â sicrhau y caiff y cynllun gwella ansawdd a llywodraethu thematig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ei ddatblygu a'i gyflawni.
Bydd cam nesaf y broses wella yn cael ei arwain gan gadeirydd newydd o 1 Medi, yn dilyn penodi Mark Polin, a fydd yn rhoi arweinyddiaeth a chyfeiriad clir. Bydd yn arwain bwrdd newydd, gyda recriwtio is-gadeirydd newydd a thri aelod annibynnol, a newidiadau ar lefel weithredol, gan gynnwys cyfarwyddwr gweithredol newydd ar gyfer datblygu'r gweithlu a'r sefydliad a benodwyd yn ddiweddar, a chyfarwyddwr gofal sylfaenol a chyfarwyddwr strategaeth ar fin cael eu recriwtio.
Byddaf yn parhau i gynnal cyfarfodydd atebolrwydd rheolaidd gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr ac yn mynd i gyfarfod y bwrdd ddydd Iau yma i drafod cynnydd. Byddaf yn egluro fy nisgwyliadau clir i'r bwrdd arwain a darparu newid cadarnhaol parhaol.