4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:11, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad? Ond mae'n rhaid imi ddweud na fydd yn rhoi fawr ddim cysur i bobl yn y gogledd, oherwydd er gwaethaf eich honiadau o welliant, hyd yn oed mewn rhai meysydd, mae'n ofid imi nad yw llawer o gleifion yn y gogledd yn gweld y gwelliant hwnnw, ac rwy'n credu fod yr ystadegau yn siarad drostynt eu hunain.

Dyma fwrdd iechyd a roddwyd mewn mesurau arbennig dair blynedd yn ôl, ac eto, dros y cyfnod o dair blynedd, mae wedi dirywio o ran ei berfformiad yn ei adran achosion brys yn erbyn y targed pedair awr, mae wedi dirywio o ran y targed 12 awr, mae'r amseroedd atgyfeirio-i-driniaeth wedi gwaethygu o ran y targed 26 wythnos, ac mae ganddyn nhw fwy o gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth nag a oedd dair blynedd yn ôl pan roddwyd y bwrdd iechyd hwn mewn mesurau arbennig. Mewn gwirionedd, dydyn nhw ddim yn unig yn waeth nag yr oedden nhw dair blynedd yn ôl, nhw yw'r gwaethaf yng Nghymru o ran pob un o'r mesurau hynny.

Un o'r arwyddion eraill o anawsterau mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu yw o ran ei reolaeth ariannol, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at ei reolaeth ariannol gynnau. Mae ei ddiffyg wedi cynyddu o £26.6 miliwn, yn y flwyddyn yn union cyn cyflwyno mesurau arbennig, i £38.8 miliwn yn y flwyddyn ariannol sydd newydd ddod i ben. Ac hwyrach eich bod yn dweud ein bod yn neilltuo mwy o arian i ymdrin â rhai o'r agweddau hyn ynglŷn â pherfformiad, ond y gwir amdani yw ichi hawlio £3.13 miliwn yn ôl ychydig fisoedd yn ôl. Felly, ni allwn ni roi ar y naill law, a chymryd yn ôl gyda'r llall a disgwyl gwelliant y pen arall, oherwydd nid yw'n gweithio. Mae hi'n amlwg nad yw eich ymyriad yn gweithio.

Rydych chi wedi honni y bu rhywfaint o gynnydd o ran iechyd meddwl, ac eto, ychydig wythnosau yn ôl, gwelsom adroddiad HASCAS yn dweud na allent warantu y byddai unrhyw sefyllfa yn wahanol pe byddai claf yn mynd i mewn i'r system yn awr nag yr oedd pan dorrodd sgandal y ward Tawel Fan flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal â hynny, fe wnaethoch chi ddweud bod y prosesau rheoli cwynion yn gwella. Wel, gallaf ddweud wrthych o'r negesau rwy'n eu cael, ac nid oes unrhyw amheuaeth y bydd Aelodau Cynulliad eraill o'r gogledd yn dweud hefyd, nad ydyn nhw'n cyrraedd y targed o 28 diwrnod o gwbl o ran y Mesur Gweithio i Wella sydd ar waith. Mewn gwirionedd, mae llawer o gleifion yn aros ers blynyddoedd i gael sylw i'w cwynion.

Fe wnaethoch chi sôn bod gofal sylfaenol wedi gwella. Dyma, wrth gwrs, oedd un o'r meysydd allweddol pam y rhoddwyd y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig, ac eto rydym ni wedi gweld meddygon teulu yn rhoi'r allweddi yn ôl i'w meddygfeydd ac yn cefnu ar y system oherwydd y pwysau y mae'n ei roi arnynt. Ac mae'n waeth yn y gogledd nag yn unman arall. Nawr, rwy'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol a wnaed mewn rhai agweddau o'r seilwaith cyfalaf, ond pryd ydym ni'n mynd i weld mwy o feddygon fel y gall pobl gael apwyntiadau gyda'r meddygon hynny yn eu meddygfeydd teulu? Allan nhw mo'u cael nhw ar hyn o bryd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at fuddsoddi mewn agweddau o ystadau'r ysbytai. Unwaith eto, croesawaf y buddsoddiad yn ystadau'r ysbytai, ond ble mae'r ysbyty newydd sbon yr addawyd yn y Rhyl, er enghraifft, yn y Royal Alexandra, a addawyd yn ôl yn 2011? Dyma ni yma wyth mlynedd yn ddiweddarach, bron, ac nid oes unrhyw arwydd o unrhyw gynnydd ar y safle hwnnw—nid oes unrhyw waith wedi'i wneud o ran gwella'r safle penodol hwnnw. Allwch chi ein diweddaru ni ar hynny, Gweinidog, efallai, heddiw?

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod angen inni weddnewid y sefyllfa hon. Dim ond newydd benodi cyfarwyddwr trawsnewid maen nhw. Mae'r sefyllfa hon wedi bodoli ers tair blynedd. Llofnodwyd eu strategaeth iechyd meddwl dim ond fis Tachwedd diwethaf. Nid dyma'r math o gynnydd y mae pobl y gogledd yn ei haeddu. Mae angen inni weld gwelliant cyflymach ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Hoffwn dalu teyrnged i'r staff sy'n gweithio'n galed, sy'n torchi eu llewys ar y rheng flaen, yn ymdrechu'n daer i ddarparu'r gwasanaethau maen nhw eisiau eu darparu, ond mae arnaf ofn y bu methiant llwyr gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y problemau yn y bwrdd iechyd hwn dros gyfnod o dair blynedd, bellach. Rydych chi wedi nodi cyfnod o 18 mis i drawsnewid pethau. Dyma fwy na thebyg fydd yr enghraifft hiraf o unrhyw sefydliad GIG erioed yn y DU mewn mesurau arbennig am gyfnod gyn hired o amser. Credaf fod hynny'n beth cywilyddus i chi ac i Lywodraeth Cymru, nad ydych chi wedi llwyddo i drawsnewid y sefyllfaoedd hyn.

Felly, pryd ydym ni'n mynd i weld y gwelliannau? Pryd allwn ni ddisgwyl gweld cyflawni eich targedau, a osodwyd gennych chi, y Llywodraeth, o ran amseroedd atgyfeirio-i-driniaeth, o ran amseroedd adrannau achosion brys? Pryd allwn ni weld bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn symud o fod y gwaethaf yng Nghymru i fod o leiaf yn un o'r rhai cyfartalog yng Nghymru o ran perfformiad yn yr agweddau hynny? A phryd fyddwn ni'n gweld y gwelliannau sylfaenol yn y maes gofal iechyd roedd pobl yn disgwyl canlyniad cyflym yn eu cylch yn sgîl sgandal Tawel Fan?

Un cwestiwn terfynol: fe wnaethoch chi gyfeirio yma at yr angen am iddyn nhw dderbyn yr argymhellion yn adroddiad Ockenden—cymeraf mai adroddiad newydd Ockenden yw hynny, sydd eto, wrth gwrs, i'w gyhoeddi. Cymeraf, felly, eich bod wedi cael golwg ar yr adroddiad hwnnw a'r argymhellion y mae'n ei wneud. Pryd gawn ni gipolwg ar yr adroddiad hwnnw? Pryd y byddwn ni'n gallu ei weld? Pryd all y cyhoedd ei weld, fel y gallan nhw gael rhywfaint o hyder yn y system hon sydd eto i gyflawni'r gwelliannau y mae angen iddynt eu gweld?