Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 5 Mehefin 2018.
Iawn, wel fe ddof i ben drwy ofyn beth ydych chi'n bwriadu ei wneud i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n well gyda darparwyr y trydydd sector, sy'n darparu ystod eang o wasanaethau, ond er gwaethaf ymgysylltu, gyda minnau wedi hwyluso peth o hynny gyda rhai o'r cyrff hynny, flynyddoedd yn ddiweddarach rydym ni'n dal i aros am sefydlu trefniadau newydd i sicrhau y darperir gwasanaethau a gomisiynir yn briodol, ac nad ydyn nhw yn dyblygu nac yn ail-greu ond yn gwella'r profiad i gleifion.