Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 5 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ymddiheuro fy mod i wedi colli fy llais? Felly, fe wnaf i fy ngorau glas i gyflwyno'r datganiad ac i roi'r diweddariad i'r Senedd ar y camau rydym yn eu cymryd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.
Fel y byddwch chi’n ymwybodol, mae pwyslais Llywodraeth Cymru wedi bod ar greu safonau i greu hawliau statudol i bobl Cymru i gael mynnu rhai gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y symudiad yma o’r hen gynlluniau iaith i safonau yn symudiad pwysig. Erbyn heddiw, mae dros 120 o gyrff yn cael eu heffeithio gan y safonau. Roedd rhesymau da dros ganolbwyntio ar y sector cyhoeddus i gychwyn. Rhyngddynt, mae’r cyrff yma yn gyfrifol am y mwyafrif sylweddol o wariant refeniw Llywodraeth Cymru, sef £13 biliwn eleni. Ond, mae sawl peth wedi fy nharo i ers dod yn gyfrifol am yn portffolio yma.
Yn gyntaf, cododd y gwaith o ddatblygu’r safonau iechyd nifer o gwestiynau anodd ynghylch sgiliau Cymraeg y gweithlu a chapasiti cyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Yn ail, mae’r broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, mae'n gostus, ac mae'n gymhleth, ac mae’r broses o ymchwilio i fethiannau yn hir ac yn orfiwrocrataidd. Ond, yn bwysicaf oll, mae nod uchelgeisiol Cymraeg 2050 o gyrraedd miliwn o siaradwyr yn gofyn am newid cyfeiriad pendant. Mae’r nod yn un pellgyrhaeddol. Er mwyn llwyddo, rhaid i ni fod yn glir ynglŷn â sut i wario ein hadnoddau a'n hamser yn well.
Fel canlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Bil newydd, yn unol â’n hymrwymiad yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Mae’r gwaith hwn yn datblygu’r cynigion a wnaethon ni yn y Papur Gwyn, 'Taro’r cydbwysedd iawn', a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd. Rhaid i’r Bil adlewyrchu ein dymuniad i ailgyfeirio adnoddau er mwyn cynyddu’r nifer o bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg, yn hytrach na chanolbwyntio cyfran sylweddol o gyllideb y Gymraeg ar gyflwyno safonau newydd a’u plismona.