5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:55, 5 Mehefin 2018

A gaf i fod yn glir? Ni fyddwn ni ddim yn rhoi’r gorau i orfodi’r safonau. Rhaid i gyrff gyflawni eu dyletswyddau statudol. Ond, rwyf o’r farn ei bod hi bob amser yn well i ddefnyddio moron yn hytrach na ffyn lle bo hynny’n bosibl. Mae hwnnw'n gyfieithiad ofnadwy, onid yw e? Os oes rhywun yn gallu ffeindio idiom gwell, byddai hynny yn help i mi. Yn y maes ieithyddol, nid yw gorfodi yn debygol o weithio os nad allwn ni newid meddyliau a rhoi cefnogaeth i gyrff i gydymffurfio. Am y rhesymau hyn, rwyf eisiau ei gwneud hi’n glir na fyddwn ni yn cyflwyno mwy o safonau ar gyfer sectorau eraill am y tro. Yn hytrach, byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau ni ar ddatblygu’r Bil newydd. Mater i’r Prif Weinidog, wrth gwrs, fydd cadarnhau amserlen ar gyfer y Bil maes o law.

Fel rhan ganolog o’n cynigion, rydym yn bwriadu creu comisiwn y Gymraeg. Prif flaenoriaeth y comisiwn fydd hybu’r Gymraeg ar sail cynllunio ieithyddol pwrpasol. Rydym yn bwriadu mai’r comisiwn fydd hefyd yn gyfrifol am reoleiddio’r safonau, ond a gaf i bwysleisio na fyddwn yn rhwyfo nôl o’r safonau nac ar annibyniaeth y rôl rheoleiddio yn y corff newydd? Rydym am i’r comisiwn arwain newid diwylliant sylweddol. Os mai ein nod ni yw cyrraedd miliwn o siaradwyr, mae’n amlwg y bydd rhaid i’r comisiwn newydd yma wario rhan helaeth o’i amser yn dwyn perswâd ar fwy o bobl i ddysgu Cymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg ac i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. Nid oes gobaith gennym i gyrraedd y targed oni bai ein bod ni’n darbwyllo rhai o’r 80 y cant o’r boblogaeth sydd ddim yn medru’r Gymraeg i ymuno yn y daith bwysig yma. Rhaid hefyd sicrhau bod lot mwy o gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg. Rhaid i ni ddarbwyllo mwy o arweinwyr byd busnes, gwasanaethau cyhoeddus a'r gymdeithas sifil—boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio—i weithredu o blaid y Gymraeg neu mewn modd sy’n hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Y comisiwn fydd yn arwain ac yn cydlynu’r gwaith hwn ar draws nifer o sefydliadau.

Rydym eisoes yn gosod seiliau cadarn i Cymraeg 2050. Rydym yn buddsoddi dros £2 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd yng ngwaith Mudiad Meithrin a Cwlwm, er mwyn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Drwy ymgyrch Darganfod Addysgu, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyrwyddo addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr. O fis Medi, bydd cymhelliant newydd o £5,000 ar gael i ddenu mwy o fyfyrwyr i hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Ein nod ni yw cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg a phynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn addysg ôl-16 yn allweddol er mwyn cadw’r rheini sydd wedi mynychu ysgolion Cymraeg yn siarad Cymraeg. Fe fydd hyn hefyd yn helpu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu ac yn ateb anghenion cyflogwyr. Rydym hefyd yn buddsoddi £2.5 miliwn eleni yng nghynllun Cymraeg Gwaith a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r galw am y cyrsiau yn eithriadol. Yn ogystal â hyn, fe wnes i lansio cynllun Cymraeg Byd Busnes yn ddiweddar, cynllun sy’n gweithio gyda busnesau i’w helpu nhw i ddefnyddio’r Gymraeg. A chyn hir, rwy’n bwriadu lansio llinell gyswllt er mwyn rhoi cymorth rhad ac am ddim i fusnesau ac i unigolion. Rwy’n disgwyl bydd y comisiwn arfaethedig yn ehangu’r math yma o waith i feysydd eraill.

Wrth gynllunio ar gyfer y comisiwn newydd, rwy’n ymwybodol bod tymor y comisiynydd presennol yn dod i ben fis Mawrth nesaf. Er mwyn sicrhau cyfnod pontio priodol rhwng y comisiynydd presennol a’r gyfundrefn newydd, byddaf yn cychwyn trefn penodiadau cyhoeddus ar gyfer comisiynydd newydd yn fuan. Bydd y person a benodir yn chwarae rhan allweddol yn adeiladu ar waith y comisiynydd presennol ac yn gosod seiliau cadarn i’r comisiwn newydd. Byddaf i heddiw yn ysgrifennu heddiw at y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i’w gwahodd nhw i enwebu Aelod i fod ar y panel penodi.

Yn olaf, hoffwn i ddiweddaru Aelodau am gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, y WESPs. Nawr, cymeradwyais 15 o’r cynlluniau ar y 15 Mawrth eleni, ac yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw, fe wnes i siarad yn uniongyrchol gydag arweinydd pob un o’r saith awdurdod arall er mwyn gosod allan y gwelliannau roeddwn i'n eu disgwyl cyn i mi ystyried cymeradwyo’r cynlluniau. Mae’r trafodaethau hynny wedi dwyn ffrwyth yn y rhan fwyaf o achosion. Mae un cynllun ychwanegol eisoes wedi’i gymeradwyo gennyf, ac rydw i'n obeithiol bod y gweddill yn agos iawn at gael eu cymeradwyo.

Rydw i'n cydnabod bod y daith wedi bod yn un rhwystredig ar adegau, ac rydw i eisiau diolch i bob awdurdod lleol am ddangos yr ewyllys i weithio gyda’r Llywodraeth er mwyn datblygu ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach yn sgil nifer uchel y ceisiadau i’r rhaglen grant cyfalaf o £30 miliwn i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a gafodd ei chyhoeddi yn gynharach eleni.

Ym mis Chwefror, penodais Aled Roberts i arwain bwrdd cynghori annibynnol. Bydd y bwrdd yn gyfrifol am roi cyngor ar sut i weithredu argymhellion yr adolygiad brys o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, a gyhoeddwyd yn 2017. Ac rydw i’n edrych ymlaen at dderbyn cyngor y bwrdd ar sut y gallwn ni gryfhau cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg fel sail i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.