6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:52, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r mater ynghylch pobl anabl yn un da, ac yn amlwg mae un o'r unedau peilot yn benodol yn ystyried ehangu ar weithrediad presennol sydd eisoes yn cyflogi nifer o bobl anabl. Mewn gwirionedd, nid oedd Remploy byth yn cyflogi dim ond pobl anabl; roedd yna bobl yn y haenau rheoli, er enghraifft, nad oedden nhw'n anabl.

Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynlluniau peilot hyn yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer cyfleoedd marchnad lafur drosiannol. Felly, er enghraifft, os gymerwn ni ffatri ddillad, mae'n amlwg y bydd yna bobl sy'n cynhyrchu'r dillad eu hunain, yn gwnïo, torri ac ati, ond hefyd, bydd yna pobl sy'n dysgu sut i wneud y busnes cynhyrchu, y gwaith gwerthu, y gwaith marchnata, rhedeg y ffatri, y gwaith cyllidebu, y gwaith rheoli ac ati, ac rydym ni'n benderfynol iawn bod y cyfleoedd hynny i gyd ar gael i bawb sy'n mynd drwy'r llwybr marchnad lafur drosiannol, fel nad ydych chi'n dysgu dim ond un o'r pethau hynny; fe gewch chi amrywiaeth o gyfleoedd ac fe fyddwch chi'n gallu rhoi prawf ar eich sgiliau mewn amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael.

Mae'n gwbl bosibl y gallai rhai o'r bobl sy'n dechrau yno ar y sail ei fod yn llwybr trosiannol i farchnad, yn darganfod, mewn gwirionedd, nad ydyn nhw'n gallu symud ymlaen ac efallai y byddwn yn gweld bod angen rhyw gyflogaeth warchodol i bobl ag anableddau nad ydyn nhw'n gallu symud ymlaen, ond y nod yw sicrhau y gall pawb fynd allan a chael swydd gynhyrchiol, swydd well yn agosach at eu cartref, ag amodau gweithio da a theg, ac y bydd y cynlluniau peilot hyn yn sbarduno'r cynnydd hwnnw mewn sgiliau. Ond, Dirprwy Lywydd, os byddan nhw, ynddynt eu hunain, yn dod yn gyflogwyr mawr, hynod gystadleuol, yna byddwn i wrth fy modd â hynny fel canlyniad hefyd.