– Senedd Cymru am 5:31 pm ar 5 Mehefin 2018.
Eitem 6 ar ein hagenda yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar y newyddion diweddaraf ynghylch y rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.
Pan ffurfiodd y Prif Weinidog y Llywodraeth Cymru hon ym mis Mai 2016, fe'i gwnaeth yn glir mai un o flaenoriaethau canolog y weinyddiaeth fyddai creu swyddi gwell yn nes at adref. Roedd yn gyfarwyddyd i'r holl Weinidogion, ar draws y Llywodraeth, i ledaenu cyfleoedd ledled Cymru gyfan ac i ddefnyddio pob dull o ddylanwadu datganoledig a oedd ar gael i gefnogi'n greadigol yr uchelgais honno. Roedd hynny'n golygu gweithio mewn ffyrdd newydd, ar draws portffolios Gweinidogol a chwalu seilos traddodiadol Llywodraeth i greu cyfleoedd swyddi arwyddocaol pan nad oedd y farchnad yn gallu gwneud hynny. Un o'r cyfrifoldebau pwysicaf a roddwyd i mi ar yr adeg honno oedd cynyddu ymhellach y syniad newydd a gawsom gan Gyngres Undebau Llafur Cymru i ddefnyddio pŵer gwario caffael cyhoeddus, a thrwy ddefnyddio contractau neilltuedig, defnyddio'r dull hwnnw o ddylanwadu i greu swyddi mewn ardaloedd lle mae'r angen am gyflogaeth yn uchel. Roedd y syniad yn un syml. Yn ogystal â darparu cyfleoedd gwaith newydd i unigolion oedd eu hangen nhw, gallem hefyd ychwanegu pecynnau cymorth unigol i gyd-fynd â'r cyfleoedd a chanolbwyntio ar y rhwystrau penodol sy'n eu hatal rhag cael gwaith a symud ymlaen i swyddi sy'n talu'n well.
Mewn nifer o ffyrdd, nid yw'r syniad yn newydd. Rydym wedi sôn sawl gwaith, ar draws y pleidiau, am y posibilrwydd o ddefnyddio pŵer gwario arferol y Llywodraeth yn y modd hwn. Yr her, fel erioed, yw sut i wneud hwnnw weithio'n ymarferol ar lawr gwlad. Roedd rheolau cymorth gwladwriaethol, canllawiau caffael, cyfraith contract, rheoliadau Ewropeaidd a chyfres o rwystrau ymarferol eraill yn aml yn ei gwneud hi'n anodd troi syniad da yn newid ymarferol yn ein cymunedau. Felly, gan weithio gyda thîm dawnus ac arloesol o swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid cymdeithasol ym mudiad yr undebau llafur ac mewn diwydiant, dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu cyfres o raglenni arbrofol a allai ein helpu i ddatrys llawer o'r problemau ymarferol hyn a phrofi, drwy nifer fechan o raglenni masnachol wedi eu monitro yn ardal tasglu'r Cymoedd, cyfres o wahanol fodelau i weld sut y gellid datblygu ymyraethau o'r fath.
Canlyniadau'r gwaith hwnnw yw'r hyn a gyflwynaf i'r Aelodau yma heddiw. Rydym yn bwrw ymlaen â phedwar prosiect arbrofol. Er nad ydynt, ar eu pennau eu hunain, ond yn cynrychioli dim ond cyfran fechan o gyllideb caffael flynyddol Llywodraeth Cymru o £6 biliwn ac o gyfanswm y gyllideb gyffredinol o £15 biliwn, rwy'n credu y gallent gyflwyno gwersi cyffrous ynglŷn â sut i ddefnyddio pŵer gwario'r Llywodraeth yn y dyfodol mewn modd defnyddiol i greu mwy o swyddi a rhai gwell yn nes at adref.
Mae'r cyntaf o'r cynlluniau arbrofol hyn yn ceisio datblygu canolfan i weithgynhyrchu dillad arbenigol. Gan weithio mewn partneriaeth â'r sector cymdeithasol, byddwn yn penodi menter gymdeithasol i weithredu uned weithgynhyrchu yng Nglynebwy gan gynhyrchu dillad arbenigol ar gyfer pen ucha'r farchnad. Un enghraifft o'r math o gynnyrch y gallai'r uned hon ei gynhyrchu yw dillad gwaith diogelu awyr agored, gan ddefnyddio tecstilau sy'n gallu anadlu a gwrthsefyll crafiadau, ar gyfer eu defnyddio mewn diwydiannau megis gwaith ffordd. Bydd yr uned weithgynhyrchu yn gweithredu fel marchnad lafur drosiannol sy'n canolbwyntio ar bobl, gyda'r nod o gynyddu cyflogadwyedd hirdymor yn yr ardal gyfagos, a chefnogi'r rhai hynny sy'n dyheu am gael gwaith, ac aros mewn gwaith a datblygu. Manteision y dull hwn o weithredu yw'r gallu i ailfuddsoddi elw yn y busnes neu yn y gymuned leol, i sicrhau pan fydd busnes yn elwa bod y gymdeithas yn elwa hefyd.
Ystyriwyd y rhwystrau i gyflogaeth, gan gynnwys sut y gellir eu goresgyn drwy'r cynllun arbrofol hwn. Mae lleoliad yr uned ffatri sydd ar gael, er enghraifft, rhyw bum munud ar droed o'r cysylltiadau bysiau a threnau.
Rydym wedi sefydlu perthynas waith gref gydag ardal fenter Glynebwy fel y gellir rhoi gwybodaeth yn gynnar i bobl leol am unrhyw gyfleoedd cyflogaeth tymor hir.
Rwyf yn falch o adrodd y disgwylir cwblhau'r broses o benodi partneriaid cymdeithasol yn ystod yr haf, ac rwy'n disgwyl i'r ffatri fod yn weithredol erbyn hydref eleni. Y bwriad cychwynnol yw cyflogi 25 o bobl, gan ddisgwyl iddyn nhw symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy tymor hwy drwy hyfforddiant a phrofiadau ymarferol yn y gweithle.
Rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu cyfleoedd pellach er mwyn i'r cwmni hwn fod yn gyflenwr gwerthfawr o fewn y sectorau cyhoeddus a'r sectorau preifat a chynyddu nifer ei weithwyr. Pan allwn ni, fe fyddwn yn defnyddio'r dulliau dylanwadu hynny sydd ar gael i gynorthwyo yn hyn o beth, er enghraifft drwy gontractau'r sector cyhoeddus megis Trafnidiaeth Cymru — un arwydd yn unig o'n hymrwymiad fel Llywodraeth Cymru i'r cynlluniau arbrofol wrth inni ddefnyddio ein systemau contractio ein hunain.
Mae'r ail brosiect arbrofol yn cynnwys uned sy'n cynhyrchu arwyddion traffig ac arwyddion masnachol megis arwyddion priffyrdd, enwau strydoedd, arwyddion diogelwch a byrddau hysbysu. Mae hon yn fenter gymdeithasol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cyflogi pobl ag anableddau, a'r nod yw cynyddu oriau gwaith y gweithlu presennol. Bydd yr oriau gwaith yn cynyddu o ganlyniad i drafodaethau, a gafodd eu trefnu gan fy nhîm Swyddi Gwell, rhwng yr uned a chadwynau cyflenwi ledled Cymru gyda'r nod o archebu oddi wrthynt. Mae'r trafodaethau yn bennaf gyda chontractwyr haen gyntaf sy'n cael archebion gan y sector cyhoeddus i gwblhau gwaith, yn hytrach na chan brynwyr yn y sector cyhoeddus. Targedir y cyflenwyr hyn yn fwriadol i sbarduno telerau ac amodau budd cymdeithasol a chymunedol sy'n rhan annatod o gontractau a fframweithiau'r sector cyhoeddus yn unol â'n polisi caffael cyhoeddus.
Rwyf yn falch fod y galw ychwanegol am gynhyrchion y prosiect arbrofol hwn eisoes wedi arwain at archebion o'r ffatri gan brif gontractwyr awdurdod lleol, gyda'r awdurdodau lleol yn cefnogi fy swyddogion yn y trafodaethau hyn, ac rwyf yn ddiolchgar am hyn. Rwyf hefyd yn falch o hysbysu Aelodau'r Cynulliad fod Trafnidiaeth Cymru wedi mynnu bod y ffatri hon yn cael ei defnyddio ar gyfer ei gofynion o ran arwyddion pan fydd y gweithredwr penodedig yn cyrraedd cyfnod teithiol y contract gweithredwr trên newydd. Mae'r archebion hyn i'w croesawu; fodd bynnag, i sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y sefydliad hwn, mae swyddogion yn ymchwilio i archebion tymor byrrach hefyd, ac mae'r rhain yn cynnwys contractwr ystâd gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a Chomisiwn y Cynulliad ei hun.
Paent wedi'i ail-beiriannu yw'r agwedd arbenigol ar fusnes y trydydd prosiect arbrofol. Mae fy nhîm Gwell Swyddi yn sefydlu cerbyd dibenion arbennig i ail-beiriannu paent gwastraff a gesglir o safleoedd gwastraff awdurdodau lleol ledled Cymru. Bydd hyn yn dwyn ynghyd perchennog y patent ar gyfer y broses o ail-beiriannu a menter gymdeithasol leol i atgynhyrchu eu gwaith, sydd wedi ei leoli ym Mirmingham ar hyn o bryd. Byddan nhw'n gweithredu'r un broses o barc eco Bryn Pica o fewn ffiniau Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu y gellir casglu paent gwastraff o Gymru, ei ail-beiriannu a'i ailddefnyddio yng Nghymru. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hagenda datgarboneiddio — bydd pob litr o baent sydd yn cael ei ail-beiriannu yn cynnwys 1.3kg yn llai o garbon wedi ei ymgorffori yn y cynnyrch hwn.
Mae cynllunio cynnar ar y llwybr i gyflogaeth yn mynd rhagddo, a menter gymdeithasol wedi ei lleoli ym Merthyr Tudful fydd y sefydliad sy'n lletya. Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio gyda phartneriaeth sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd wedi amlygu prinder busnesau paentio ac addurno yn y rhanbarth.
Yn olaf, mae ein pedwerydd prosiect arbrofol yn canolbwyntio ar ailgylchu papur. Mae'n seiliedig ar fenter gymdeithasol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cyflogi pobl anabl, y digartref a'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am dymor hir. Mae'n gweithredu fel marchnad lafur drosiannol. Mae'r cwmni'n casglu, trefnu a rhwygo papur gwastraff ond mae angen tunelli yn fwy o bapur i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth o fewn y sefydliad ac er mwyn iddo fod yn hunangynhaliol yn ariannol. Mae'r tîm yn parhau i weithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r sefydliad hwn a'i wasanaethau. Rwy'n falch iawn fod y tîm eisoes wedi cael ymrwymiad gan awdurdod lleol i ddarparu mwy o bapur gwastraff i'r cwmni; mae hyn yn llwyddiant cynnar i'r cynllun arbrofol hwn.
Dirprwy Lywydd, yr wyf am gloi drwy nodi bod gan bob un o'r cynlluniau arbrofol wahanol fecanwaith ymyrraeth, a gosodwyd pob un o fewn ardal tasglu'r Cymoedd. Cynllunnir hyn yn fwriadol er mwyn inni gael amrywiaeth profedig o ymyraethau masnachol mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel yn gyntaf, ac y gellir mesur llwyddiant y safle arbrofi cyfleoedd hwn ac, o bosibl, ei ailadrodd mewn mannau eraill yng Nghymru.
Byddwn yn hapus i hysbysu'r Aelodau am unrhyw gynnydd, ac edrychaf ymlaen at rannu llwyddiant y cynlluniau arbrofol gyda chi wrth iddynt ddwyn ffrwyth. Diolch yn fawr.
Mae'n fater sy'n peri pryder, yn enwedig i Lywodraeth Cymru, fod adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree 'Tlodi yng Nghymru 2018' ar ôl 19 mlynedd o ddatganoli, wedi canfod fod cyfran y teuluoedd sy'n byw mewn tlodi incwm yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch nag yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a bod tlodi ymhlith parau sydd â phlant wedi bod ar gynnydd ers 2003.
Drwy gydol yr ail, y trydydd a'r pedwerydd Cynulliad galwais yn rheolaidd ar eich rhagflaenwyr i fynd i'r afael ag achosion o anfantais, tlodi ac amddifadedd, ac nid dim ond trin y symptomau. Felly, croesawaf y gydnabyddiaeth yn eich datganiad fod angen i'r newid ymarferol mewn cymdeithas ganolbwyntio ar y rhwystrau penodol sy'n atal unigolion rhag cael gwaith a symud ymlaen i waith â chyflog gwell. Ni fynegodd rhai o'ch rhagflaenwyr hynny na chydnabod hynny yn yr un modd.
Fodd bynnag, fel un a oedd yn falch o fod wedi gweithio yn y sector cydfuddiannol di-elw neu fenter gymdeithasol am ddau ddegawd a mwy, rwyf hefyd yn cydnabod nad ydynt yn fwledi arian, ac y gellir eu rhedeg yn aneffeithlon, gallant golli arian, gall yr hwch fynd drwy'r siop. Maen nhw'n gallu gwneud pobl yn ddi-waith, fel y gall corff sydd er elw hefyd, a weithiau hyd yn oed cyrff y sector cyhoeddus—er, yn gyffredinol, ni chaniateir i'r rheini fethu yn yr un modd.
O gofio, gyda Cymunedau yn Gyntaf, pan edrychodd Swyddfa Archwilio Cymru ar Cymunedau yn Gyntaf yn 2009, ei fod wedi cynhyrchu adroddiad yn nodi methiannau llywodraethu corfforaethol wrth reoli arian, rheoli adnoddau dynol a thrywydd archwilio, pa rwystrau a gwrthbwysau llywodraethu corfforaethol ydych chi'n eu rhoi ar waith fel bod y sylfeini'n iawn, er mwyn rhoi'r cyfleoedd gorau posibl i'r mentrau cymdeithasol hyn, sy'n aml yn fentrau cymdeithasol newydd, i gychwyn a llwyddo gan sicrhau hynny i'w cyflogeion hefyd.
Rydych chi'n sôn am weithio gyda thîm talentog ac arloesol o swyddogion Llywodraeth Cymru a phartneriaid cymdeithasol mewn mudiadau undebau llafur a diwydiant. O gofio mai Canolfan Cydweithredol Cymru yw'r corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu a rheoli mentrau cymdeithasol, pa gysylltiad gawsoch chi gyda nhw, a hefyd gyda'r trydydd sector ehangach, o ystyried y gwaith a wnaeth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar olynwyr modelau Cymunedau yn Gyntaf yn y dyfodol, cyrff angori cymunedol ac ati, a hefyd y gwaith a wneir ar hyn o bryd ledled Cymru gan y rhwydwaith cyd-gynhyrchu sydd yn cynyddu yn union y math hyn o ardaloedd?
Sut ydych chi'n ymateb i ddatganiad Sefydliad Bevan, a gafwyd ar ôl i Gymunedau yn Gyntaf ddod i ben, sef:
Na wnaeth y rhaglen leihau'r prif gyfraddau tlodi yn y rhan fwyaf o gymunedau, a llai yng Nghymru gyfan ac felly y dylai rhaglen newydd gael ei chyd-gynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol; ac na ddylai gael ei chyfarwyddo o'r brig i lawr', yn seiliedig ar:
theori glir o newid sydd yn adeiladu ar asedau'r gymuned ac asedau'r bobl yn hytrach nag ar eu diffygion a dylai:
gweithredu lleol gael ei arwain gan gyrff yn y gymuned sydd wedi eu sefydlu ac sydd â hanes cryf o gyflawni ac sydd wedi hen ymgysylltu â'r gymuned'?
Dywedodd hefyd, os yw pobl yn teimlo bod polisïau yn cael eu gorfodi arnynt, nid yw'r polisïau’n gweithio. Felly, sut y gallwch chi sicrhau'r Cynulliad ac eraill y tu allan, yn ogystal â'r mentrau a ddisgrifiwyd gennych yn eich datganiad, eich bod yn manteisio ar y dulliau hynny i sicrhau nad ydym ni'n ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol?
Rwyf am gloi drwy gyfeirio at ddigwyddiad a lywyddais yma ym mis Ebrill gyda Sefydliad Bevan a Big Issue Cymru i drafod atal a chynhwysiant pryd yr eisteddais wrth ochr sylfaenydd The Big Issue, Arglwydd John Bird a'i gyflwyno. Sut ydych chi'n ymateb i'w ddatganiad tybed, a dyfynnaf, 'Mae gormod o amser yn cael ei dreulio yn dadansoddi tlodi, a dim digon o amser i'w drechu, gormod o amser yn gwneud pobl deimlo ychydig yn fwy cysurus ynghylch eu tlodi, dim digon i sicrhau bod y tlawd yn cael eu hystyried' a dywedodd, 'Mae'n rhaid i ni wneud i bobl dlawd '—ei eiriau ef—'newid y ffordd y maen nhw'n meddwl am dlodi, i agor eu llygaid er mwyn iddyn nhw weld y problemau a all ddod i'w rhan, gan droi nawdd cymdeithasol yn gyfle cymdeithasol', ac, yn olaf, ei sylw bod 80 y cant o ymyraethau cymdeithasol yn cael ei wario ar achosion brys ac ymdopi, ond bron dim ar wellhad, ac wrth ystyried gwariant cymdeithasol bod rhaid inni felly bob amser, ofyn pa un ai arian atal yw'r bunt gymdeithasol?
Gwn fod yr Aelod yn llawn bwriadau da yn yr hyn mae'n ceisio ei wneud, ac rwyf am drafod nod y prosiect hwn, sef defnyddio gwariant caffael y Llywodraeth wrth ymyrryd yn y farchnad pan fo'r farchnad wedi methu'n ddirfawr i gynhyrchu unrhyw fath o gyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel iawn, yn enwedig gyda'r economi sylfaenol ar gyfer pobl sy'n wynebu nifer o rwystrau wrth iddyn nhw geisio cael gwaith. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud hynny yn rhan o raglen wrth-dlodi, ond mae'r rhain yn gynlluniau arbrofol penodol iawn sydd wedi eu targedu er mwyn gweld os oes unrhyw un o'r prosesau hyn yn gallu cynhyrchu'r mathau o systemau cyflogaeth barhaus y gobeithiwn eu gweld er mwyn galluogi pobl i gamu allan o dlodi a chamu i mewn i waith sy'n talu'n dda. Oherwydd gwyddom—ac mae arnaf ofn fod y system fudd-daliadau y mae'r Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU yn ei gweithredu ar hyn o bryd yn gwneud hyn yn waeth—mewn gwirionedd mae gwaith gyda chyflog isel yn gwneud pobl yn dlawd iawn ac yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mewn gwirionedd mae llawer o bobl sy'n byw mewn tlodi yn gweithio, felly ni ddylem ni greu amodau gwaith gwael. Holl ddiben y fenter hon gan y TUC yw rhoi pobl mewn gwell swyddi sy'n nes at eu cartrefi, fel ein bod yn cyflawni nifer fawr o bethau ac rwyf yn sicr bod pob aelod yn y Siambr hon yn rhannu'r dyhead hwn. Felly, mae'r pedwar cynllun arbrofol gwahanol hyn wedi'u cynllunio'n benodol i brofi model sydd yn caniatáu i ni ddargyfeirio gwariant y Llywodraeth neu ddefnyddio dylanwad gwariant y Llywodraeth i gael y canlyniadau hynny yr wyf yn siŵr ein bod i gyd eisiau eu gweld.
Mae'r cysyniad Gwell Swyddi yn Nes at Adref yn un y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi'n llwyr. Mae allfudiad pobl ifanc o'r cymoedd i rannau eraill o Gymru a'r DU yn aflwydd ar ein cymunedau ac nid yw'r broblem hon wedi ei chyfyngu i'r cymoedd, oherwydd fel y gwelwn yn ein cymunedau Cymraeg yn y gorllewin ac yn y gogledd, mae allfudo oherwydd diffyg cyfleoedd economaidd yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg hefyd.
Mae caffael cyhoeddus wedi bod yn adnodd economaidd pwysig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn bellach, ac yn y blynyddoedd diwethaf o leiaf, mae canran y prynu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi gostwng. Mae hyd yn oed y prynu a wneir gan Lywodraeth Cymru ei hun, sy'n honni ei bod yn arwain drwy esiampl, wedi gostwng o 44 y cant i 41 y cant ers 2015-16. Felly, a all arweinydd y tŷ amlinellu sut y mae'r cynllun hwn yn gweddu i strategaeth caffael cyhoeddus ehangach Llywodraeth Cymru, a sut ydych chi'n mynd i wrthdroi'r ffigurau siomedig hyn?
Nododd arweinydd y tŷ yn ei datganiad bod rheolau cymorth gwladwriaethol a rheoliadau caffael cyhoeddus yr UE wedi bod yn rhwystr rhag gweithredu'r cynllun hwn. Mae cymorth gwladwriaethol a chaffael cyhoeddus yn ddau faes polisi a fydd yn dychwelyd i San Steffan yn dilyn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ynghylch y Bil ymadael â'r UE. Felly, a all arweinydd y tŷ nodi sut y bydd y rhwystrau newydd hyn yn effeithio ar y cynllun hwn yn awr ac yn y dyfodol?
Rydym newydd gael datganiad ar ddyfodol y rheilffyrdd yng Nghymru. Mae cynlluniau buddsoddi mewn trafnidiaeth Llywodraeth yn amlygu ei bwriadau o ran polisïau economaidd ehangach ac, yn arbennig, lle bydd mwyafrif y llafurlu wedi ei leoli. Canlyniad y cytundeb masnachfraint gyda'r gweithredwr preifat er elw KeolisAmey yw y bydd yr holl reilffyrdd a ddaw o'r cymoedd yn ffigurol ac yn llythrennol yn arwain i Gaerdydd. Rwyf yn cytuno bod angen buddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i Gaerdydd ac, yn wir, o fewn Caerdydd ei hun hefyd—angen mawr. Fodd bynnag, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni fydd uno rheilffyrdd Merthyr a Rhymni i greu rheilffordd gylch y cymoedd fel y'i gelwir yn cael ei gynnwys ym metro de Cymru, sydd yn gwbl groes i'ch uchelgais ar gyfer creu swyddi gwell yn nes at adref. Felly, a all arweinydd y tŷ egluro sut y mae polisïau trafnidiaeth ehangach Llywodraeth Cymru yn cefnogi eich uchelgais i greu swyddi gwell yn nes at adref?
Rwyf yn falch bod Leanne Wood wedi dechrau drwy ddweud ei bod yn cefnogi'r fenter Gwell Swyddi yn Nes at Adref, ac nid oeddwn yn hollol sicr o glywed gweddill ei chyfraniad sut yr oedd hi yn cefnogi hynny.
O ran y strategaeth gaffael, ni ddywedais ei bod yn rhwystr; dywedais fod nifer o bethau yr oedd yn rhaid i ni eu hystyried wrth lunio cynllun sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei gwariant caffael a'i dylanwad caffael i sefydlu ymyrraeth i'r farchnad er mwyn creu gwaith i bobl a oedd yn dod ar draws rhwystrau cyflogaeth difrifol mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel. Cytunaf yn llwyr â chi y ceir ardaloedd o ddiweithdra uchel ledled Cymru, a bod nifer fawr o gymunedau sydd â rhwystrau gwahanol a phroblemau gwahanol. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yma yw treialu pedwar prosiect gwahanol sy'n ymdrin â gwahanol ffyrdd o ymyrryd yn y farchnad, fel y gallwn eu defnyddio fel cynlluniau arbrofol gwirioneddol i weld pa un a ydynt yn gweithio, ac i weld a oes modd eu hehangu, neu i weld, er enghraifft, os ydynt yn bethau penodol wedi eu seilio ar leoliad, oherwydd fe fyddai gan rai cymunedau fwyafrif mawr o sgiliau penodol a theimlad cymunedol gweddilliol tuag at ardal benodol, er enghraifft. Un o'r rhain yw'r cynllun ym Merthyr Tudful sydd eisoes yn bodoli, ac rydym yn gobeithio ei droi yn fenter fwy o lawer drwy ddefnyddio ein dylanwad.
Felly, ni ddywedais fod y rheolau yn rhwystr. Nid wyf i'n credu bod y portread o beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r sefyllfa yn sgil y Bil ymadael yn un yr wyf i'n cytuno ag ef o gwbl. Nid wyf wir yn credu bod ras i'r gwaelod heb unrhyw reolau ledled y DU ar gyfer sut y byddem yn ymyrryd mewn diwydiant lleol, neu sut y byddem yn cael rheolau gwariant caffael rhag i drefi a phentrefi ddechrau cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn sefyllfa gynaliadwy. Rwyf yn sicr nad yw arweinydd Plaid Cymru mewn gwirionedd yn dweud y byddai honno'n sefyllfa y gallai unrhyw un ohonom ei derbyn. Mae'n amlwg ei bod yn fuddiol i ni i gyd gael cyfres o reolau sydd yn caniatáu i ni gefnogi ein poblogaeth leol a chael ffyniant economaidd, heb gymryd rhan mewn ras i'r gwaelod neu ras i frig y swm o arian sydd gennych i gynnig i bob cyflogwr i ddod i'ch ardal leol, ac rwy'n sicr nad oedd hi'n bwriadu awgrymu hynny.
O ran y system drafnidiaeth, wrth gwrs, rydym wedi edrych yn ofalus iawn i ganfod beth yw'r cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer pob un o'r canolfannau hyn, oherwydd mae nifer fawr o'r problemau, er enghraifft gyda'r Cymoedd uwch, yn ymwneud â chyflymder cysylltiadau trafnidiaeth i ganolfannau cyflogaeth. Ond nid yw hyn yn ymwneud â chysylltiadau trafnidiaeth; mae hyn yn ymwneud â chael swyddi ym y man y mae'r bobl yn byw ynddo eisoes, yn enwedig y rhai sy'n wynebu nifer o rwystrau megis pobl â chyfrifoldebau gofalu, sydd yn bennaf yn fenywod, neu bobl sydd wedi bod yn economaidd anweithgar ers cryn amser. Gall unrhyw fath o gostau trafnidiaeth neu rwystr fod yn broblem wirioneddol. Felly, mae'r rhain yn canolbwyntio ar geisio cael gwaith yn lleol i bobl leol. Rwyf yn fodlon iawn â'r cynlluniau arbrofol ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallaf ddod yn ôl i adrodd stori wirioneddol dda yr adeg hon y flwyddyn nesaf ar ôl inni gael blwyddyn gyfan i weithredu, ond os na fydd stori dda gennym yna o leiaf gallwn fod yn dryloyw a dweud beth oedd y broblem a sut y gellid ei datrys drwy ddefnyddio rhai o'r dulliau dylanwadu sydd ar gael i ni.
Diolch ichi arweinydd y tŷ am y datganiad hwn. Wrth gwrs, mae UKIP yn croesawu unrhyw brosiect sy'n hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth mewn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'n arbennig o briodol ei fod wedi'i ddylunio i gynnwys y rhai hynny nad ydyn nhw wedi bod mewn cyflogaeth ers peth amser ac mae yna sôn am waith ar gyfer pobl anabl. Fodd bynnag, â sôn am bobl anabl, oni fyddai'n syniad da i sefydlu un o'r unedau peilot hyn i gyflogi pobl anabl yn unig, yn yr un modd â'r ffatrïoedd Remploy, a gafodd eu cau gwaetha'r modd dros yr ychydig ddegawdau diwethaf? Gwyddom o ymholiadau a wnaed gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod Cymru yn sylweddol ar ei hôl hi o'i chymharu â Lloegr o ran darparu prentisiaethau ar gyfer pobl ddi-waith. A fyddai arweinydd y tŷ yn ystyried sefydlu unedau o'r fath, hynny yw, unedau a fyddai'n benodol ar gyfer cyflogi pobl â phob math o anableddau, wrth i'r prosiect gael ei ymestyn? Byddem ni wedyn yn gallu cyflwyno pobl i'r byd gwaith a fyddai'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gyflogaeth yn y sector preifat.
Wel, mae'r mater ynghylch pobl anabl yn un da, ac yn amlwg mae un o'r unedau peilot yn benodol yn ystyried ehangu ar weithrediad presennol sydd eisoes yn cyflogi nifer o bobl anabl. Mewn gwirionedd, nid oedd Remploy byth yn cyflogi dim ond pobl anabl; roedd yna bobl yn y haenau rheoli, er enghraifft, nad oedden nhw'n anabl.
Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynlluniau peilot hyn yw gwneud yn siŵr bod pobl yn cael amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer cyfleoedd marchnad lafur drosiannol. Felly, er enghraifft, os gymerwn ni ffatri ddillad, mae'n amlwg y bydd yna bobl sy'n cynhyrchu'r dillad eu hunain, yn gwnïo, torri ac ati, ond hefyd, bydd yna pobl sy'n dysgu sut i wneud y busnes cynhyrchu, y gwaith gwerthu, y gwaith marchnata, rhedeg y ffatri, y gwaith cyllidebu, y gwaith rheoli ac ati, ac rydym ni'n benderfynol iawn bod y cyfleoedd hynny i gyd ar gael i bawb sy'n mynd drwy'r llwybr marchnad lafur drosiannol, fel nad ydych chi'n dysgu dim ond un o'r pethau hynny; fe gewch chi amrywiaeth o gyfleoedd ac fe fyddwch chi'n gallu rhoi prawf ar eich sgiliau mewn amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael.
Mae'n gwbl bosibl y gallai rhai o'r bobl sy'n dechrau yno ar y sail ei fod yn llwybr trosiannol i farchnad, yn darganfod, mewn gwirionedd, nad ydyn nhw'n gallu symud ymlaen ac efallai y byddwn yn gweld bod angen rhyw gyflogaeth warchodol i bobl ag anableddau nad ydyn nhw'n gallu symud ymlaen, ond y nod yw sicrhau y gall pawb fynd allan a chael swydd gynhyrchiol, swydd well yn agosach at eu cartref, ag amodau gweithio da a theg, ac y bydd y cynlluniau peilot hyn yn sbarduno'r cynnydd hwnnw mewn sgiliau. Ond, Dirprwy Lywydd, os byddan nhw, ynddynt eu hunain, yn dod yn gyflogwyr mawr, hynod gystadleuol, yna byddwn i wrth fy modd â hynny fel canlyniad hefyd.
Gweinidog, hoffwn groesawu'r datganiad a wnaethoch chi yma heddiw. A minnau'n gynrychiolydd cymuned yn y Cymoedd, byddwch chi'n ymwybodol o fy angerdd hirsefydlog ar gyfer adfywio cymunedau fel fy nghymuned i, a does dim amheuaeth nad yw dod â swyddi gwell yn nes at adref yn rhan gwbl hanfodol o hynny. Felly, mae'n dda gweld y manylion yr ydych chi wedi eu cyflwyno i ni heddiw, ac rwy'n croesawu'n arbennig y gwaith sydd wedi'i wneud ym mharc eco Bryn Pica yn fy etholaeth i ar un o'r prosiectau hyn.
Mae fy nghwestiwn i i chi yn ymwneud â'r economi sylfaenol. Rydym ni'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn cynnal rhai prosiectau peilot ar hyn, ac, yn amlwg, mae caffael yn un elfen hanfodol o'r economi sylfaenol. Pa ddulliau sydd ar waith ar gyfer gweithio traws-lywodraethol ar hyn, er mwyn i wersi a ddysgwyd o'r rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref gael eu hymgorffori yn y cynlluniau peilot hynny ar yr economi sylfaenol hefyd?
Mae hynny'n bwynt da iawn, ac oes wir mae gennym nifer o—. Un o'r rhesymau pam mai fi sy'n Weinidog arweiniol ar hyn yw gan ei fod yn drefniant gweithio traws-lywodraethol. Rwy'n edrych ar fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, sydd wedi bod yn ymwneud yn helaeth â rhannau mawr ohono hefyd. Ceir nifer o gydweithwyr yn y Cabinet sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o'i sefydlu.
Yn hollol, un o'r rhesymau yr oeddwn yn canmol y tîm sydd wedi bod yn allweddol yn hyn yw oherwydd eu bod yn gweithio yn draws-lywodraethol yn y modd mwyaf rhagorol, a dyna'n union beth yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr bod gennym bedwar cynllun peilot penodol sy'n caniatáu inni dreialu ymyriadau penodol yn y farchnad gaffael er mwyn i ni allu gwerthuso cryfder yr ymyriadau hynny, eu heffeithiolrwydd a sut y maen nhw'n gweithio, ac y gallwn ni eu lledaenu nhw wedyn fel sy'n briodol, neu beidio—os gallwn ni eu datblygu nhw lle y maen nhw. Un o'r pethau yr wyf yn awyddus cael gwybod amdano yw pa un a ydyn nhw'n benodol i le neu a allai weithio pe byddem yn defnyddio'r model yn rhywle arall yng Nghymru.
Felly, mae llawer o bethau yn digwydd. Os ydych chi'n cymryd yr un a grybwyllwyd gennych ym Mryn Pica gydag ail-weithio paent, un o'r pethau gwych am hynny yw ei fod yn lleihau'r ôl troed carbon, gan fod y paent yn teithio llawer llai o bellter ac ati, ond mae'n bosibl iawn nad gwneud hynny unwaith ar gyfer Cymru gyfan yn y lleoliad hwnnw fyddai'r canlyniad gorau, ac y gallai creu un yn y gogledd neu yn y gorllewin wella'r ôl-troed carbon. Gellid sicrhau bod y ffatrïoedd yn gysylltiedig er mwyn i chi gael rhannu sgiliau ac yn y blaen. Ond mae gen i ddiddordeb mawr i weld sut y gallwn ni wneud hynny.
A sôn am barc eco Bryn Pica, mae hefyd yn dda gweld yr hyn y gall clwstwr ei wneud. Mae gennym ni'r treulydd anerobig mawr yno, sydd yn rhan o raglen ailgylchu bwyd llwyddiannus iawn Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw'n cynhyrchu trydan a gwres, ac wrth gwrs, mae hynny'n rhoi'r cyfle i ni redeg ffatrïoedd a phethau eraill yn yr ardal honno sy'n elwa ar y trydan a'r gwres sydd eisoes wedi'i gynhyrchu drwy ailgylchu. Felly, ceir cylch rhinweddol gwirioneddol, a'r hyn yr ydym yn edrych i wneud yma yw model marchnad drosiannol sy'n caniatáu i bobl gael profiad o'r holl sgiliau a'r cyfleoedd cyflogaeth y gallai clwstwr o'r fath eu cynnig, gyda dau ddisgwyliad ar gyfer hynny, sef: (a) bydd yn gallu tyfu a byddwn ni'n gallu ailgylchu llawer mwy o eitemau—paent yn yr achos hwn, ond nifer o eitemau eraill y mae aelodau, mi wn, â diddordeb mawr ynddyn nhw—a (b) bydd y bobl hynny yn ennill sgiliau lefel uchel gwerthfawr iawn a fydd yn eu galluogi i symud i swyddi eraill yn ein cymunedau a chynyddu lefel y sgiliau yn gyffredinol, sydd wedi'r cyfan, yn un o'r grealon sanctaidd ym mywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, fel y gwyddom ni i gyd.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad diddorol iawn. Rwy'n falch iawn o glywed am y pedwar cynllun peilot hyn, ond rwy'n amlwg yn teimlo'n rhwystredig nad ydyn ni wedi gallu ymestyn hyn ymhellach, oherwydd mae'n wych ein bod i'n cael busnesau newydd yn dod i'r Cymoedd, ond i lawer o fy etholwyr i, mae gorfod teithio mwy na hanner awr yn rhwystr gwirioneddol i weithio, oherwydd po bellaf y mae'n rhaid i chi deithio, po fwyaf y mae'n rhaid i chi ei dalu am ofal plant a pho anoddaf y mae'n gwneud yr hafaliad o allu fforddio i fynd i weithio.
Felly, mewn gwirionedd, hoffwn glywed ychydig mwy am y rhwystrau i'w brif-ffrydio, oherwydd byddwn i wedi meddwl ei fod yn rhywbeth y byddai Ffederasiwn y Busnesau Bach a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn frwdfrydig iawn drosto. Ac mae'n rhaid iddo fod yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, nad oes yn rhaid i bobl deithio mwy na hanner awr fel arfer i gyrraedd y gwaith, oherwydd ei bod yn ddrwg i'w hiechyd, yn wael i'r amgylchedd ac yn bendant nid yw'n beth da i blant, oherwydd mae'r amser a gymer yn amser nad ydych chi'n cael ei dreulio gyda'ch plant. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed beth yw'r rhwystrau y gallwn ni eu goresgyn.
Mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau, ac mae'n nod gan y cynlluniau peilot hyn i geisio edrych ar y pethau hyn. Ac rwy'n pwysleisio'r pwynt 'peilot' yma. Dydw i ddim eisiau gorbwysleisio'r rhwystrau a wynebwyd gennym ni i gyrraedd y pwynt hwn, ond ni fu'n hawdd creu pedwar cynllun peilot ar wahân gan ddefnyddio gwahanol drefniadau caffael a gwahanol ysgogiadau gwariant y Llywodraeth er mwyn gwneud hynny.
Ond rwy'n pwysleisio'n bendant mai'r hyn yr ydym ni'n edrych arno yma yw cynlluniau peilot gwirioneddol, oherwydd fy mod yn derbyn yn llwyr y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud: does dim amheuaeth nad yw hyn yn ymwneud â chael gwell swyddi yn nes at adref —mae'r gair 'nes' yn un mor bwysig—am yr union reswm hwnnw. Nid ydym ni eisiau i bobl deithio'n bell i'r gwaith. Hyd yn oed lle rydym ni'n hwyluso hynny, dydyn ni dal ddim eisiau hynny. Ac mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r rhan fwyaf o gymunedau yn yr ardaloedd mwyaf gwledig yng Nghymru, ac weithiau canol y dinasoedd—rwyf hefyd yn cynrychioli ardal canol dinas sydd â phroblemau tebyg—yr hyn y mae ar bobl ei eisiau yw gallu cael swyddi da rownd y gornel o'u tŷ er mwyn iddynt gael cydbwysedd gwaith-bywyd, a gallu rhoi ystyriaeth i'w cyfrifoldebau gofalu a bod eu plant yn gallu mynychu ysgolion lleol ac ati.
Felly, nod mawr y cynlluniau peilot hyn yw gweld pa un a ydyn nhw'n gweithio ac, fel y dywedais i, a allwn ni wedyn eu hail-greu mewn cymunedau eraill, efallai fel hybiau cysylltiedig, efallai fel un busnes â nifer o safleoedd—nifer o bosibiliadau. Ac rydym ni wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws y Llywodraeth i gyrraedd y fan lle'r ydym ni nawr, ac yn sicr fe fyddaf i'n edrych ymlaen at adrodd yn ôl ar y cynlluniau peilot a'r mater hwn o'r gallu i dyfu yn unol â'r anghenion a pha un a oes modd eu lleoli mewn mannau eraill, a phopeth arall ymhen rhyw flwyddyn, pan fydd gennym rywfaint o ddata oddi wrthyn nhw.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.