6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:54, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n bwynt da iawn, ac oes wir mae gennym nifer o—. Un o'r rhesymau pam mai fi sy'n Weinidog arweiniol ar hyn yw gan ei fod yn drefniant gweithio traws-lywodraethol. Rwy'n edrych ar fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, sydd wedi bod yn ymwneud yn helaeth â rhannau mawr ohono hefyd. Ceir nifer o gydweithwyr yn y Cabinet sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o'i sefydlu.

Yn hollol, un o'r rhesymau yr oeddwn yn canmol y tîm sydd wedi bod yn allweddol yn hyn yw oherwydd eu bod yn gweithio yn draws-lywodraethol yn y modd mwyaf rhagorol, a dyna'n union beth yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr bod gennym bedwar cynllun peilot penodol sy'n caniatáu inni dreialu ymyriadau penodol yn y farchnad gaffael er mwyn i ni allu gwerthuso cryfder yr ymyriadau hynny, eu heffeithiolrwydd a sut y maen nhw'n gweithio, ac y gallwn ni eu lledaenu nhw wedyn fel sy'n briodol, neu beidio—os gallwn ni eu datblygu nhw lle y maen nhw. Un o'r pethau yr wyf yn awyddus cael gwybod amdano yw pa un a ydyn nhw'n benodol i le neu a allai weithio pe byddem yn defnyddio'r model yn rhywle arall yng Nghymru.

Felly, mae llawer o bethau yn digwydd. Os ydych chi'n cymryd yr un a grybwyllwyd gennych ym Mryn Pica gydag ail-weithio paent, un o'r pethau gwych am hynny yw ei fod yn lleihau'r ôl troed carbon, gan fod y paent yn teithio llawer llai o bellter ac ati, ond mae'n bosibl iawn nad gwneud hynny unwaith ar gyfer Cymru gyfan yn y lleoliad hwnnw fyddai'r canlyniad gorau, ac y gallai creu un yn y gogledd neu yn y gorllewin wella'r ôl-troed carbon. Gellid sicrhau bod y ffatrïoedd yn gysylltiedig er mwyn i chi gael rhannu sgiliau ac yn y blaen. Ond mae gen i ddiddordeb mawr i weld sut y gallwn ni wneud hynny.

A sôn am barc eco Bryn Pica, mae hefyd yn dda gweld yr hyn y gall clwstwr ei wneud. Mae gennym ni'r treulydd anerobig mawr yno, sydd yn rhan o raglen ailgylchu bwyd llwyddiannus iawn Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw'n cynhyrchu trydan a gwres, ac wrth gwrs, mae hynny'n rhoi'r cyfle i ni redeg ffatrïoedd a phethau eraill yn yr ardal honno sy'n elwa ar y trydan a'r gwres sydd eisoes wedi'i gynhyrchu drwy ailgylchu. Felly, ceir cylch rhinweddol gwirioneddol, a'r hyn yr ydym yn edrych i wneud yma yw model marchnad drosiannol sy'n caniatáu i bobl gael profiad o'r holl sgiliau a'r cyfleoedd cyflogaeth y gallai clwstwr o'r fath eu cynnig, gyda dau ddisgwyliad ar gyfer hynny, sef: (a) bydd yn gallu tyfu a byddwn ni'n gallu ailgylchu llawer mwy o eitemau—paent yn yr achos hwn, ond nifer o eitemau eraill y mae aelodau, mi wn, â diddordeb mawr ynddyn nhw—a (b) bydd y bobl hynny yn ennill sgiliau lefel uchel gwerthfawr iawn a fydd yn eu galluogi i symud i swyddi eraill yn ein cymunedau a chynyddu lefel y sgiliau yn gyffredinol, sydd wedi'r cyfan, yn un o'r grealon sanctaidd ym mywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, fel y gwyddom ni i gyd.