7. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Newidiadau i Gyfradd y Comisiwn ar Gartrefi mewn Parciau

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:26, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Fe wnaf i ddechrau lle y gwnaethoch chi orffen, sef amlygrwydd y gofyniad i dalu y gyfradd comisiwn y bydd pobl yn cytuno iddi pan fyddan nhw'n dechrau eu contract. Wel, mae'r gyfradd yn y contract, ond mae hyn yn mynd yn ôl at y math o fater yr oeddwn i'n sôn amdano wrth ymateb i Bethan Sayed, lle nad oes unrhyw drawsgludo. Dyma leygwyr yn y bôn, yn y rhan fwyaf o achosion, yn sefydlu rhywbeth sy'n gontract difrifol iawn am un o'r pethau mwyaf y byddan nhw'n ei brynu, neu'r peth mwyaf y byddan nhw'n ei brynu, byddwn i'n ei ddychmygu, yn eu hoes, ond nid oes ganddyn nhw'r cyngor cyfreithiol y byddai pobl sy'n prynu tŷ nad yw'n gartref mewn parc yn sicr yn disgwyl chwilio amdano. Felly, yn sicr mae yna broblem yn y fan honno. Wyddoch chi, rwyf i wedi clywed am achosion, drwy'r cyfnod ymgynghori, lle y daeth pobl yn ymwybodol o'r gyfradd comisiwn, mewn gwirionedd, dim ond pan oedd eu ffrindiau yn gwerthu eu heiddo. Felly, mae hyn yn rhywbeth nad yw llawer o drigolion yn ymwybodol ohono.

O ran pam rydym ni eisiau lleihau'r gyfradd comisiwn, mewn gwirionedd mae'n ymwneud â sicrhau bod byw mewn cartref mewn parc yn parhau i fod yn ddewis atyniadol i bobl. Unwaith eto, mae hynny'n rhannol yn ymwneud â sicrhau bod gennym lety fforddiadwy i bobl mewn ardaloedd gwledig drud ym aml, lle byddai pobl sy'n ymddeol i'r cartrefi hyn yn ei chael hi'n anodd fforddio prynu yn y farchnad dai arferol. Mae cartrefi mewn parciau yn aml yn addas iawn i bobl, wrth iddyn nhw fynd yn hŷn hefyd. Mae'n anghyffredin iawn i ddod o hyd i fyngalos ar y farchnad, er enghraifft. Mae yna ddiffyg mawr o fyngalos yn y sector pan fo pobl yn ceisio prynu cartrefi, ond gall cartrefi mewn parciau yn aml fod yn addas iawn i bobl wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Felly, mae'n ymwneud â helpu pobl, mewn gwirionedd, i symud i mewn ac allan o'r sector cartrefi mewn parciau, a'i gadw'n gynnig deniadol i bobl o ran lle y bydden nhw'n hoffi byw.

Soniodd Bethan Sayed hefyd am y gwaith dadansoddi ariannol, fel y gwnaethoch chi. Yn wreiddiol, cawsom 17 o fusnesau yn cynnig agor eu llyfrau i ni, ac rwy'n credu bod hynny'n wych ac mae'n dangos pa mor bell yr ydym ni wedi dod o ran y math o berthynas sydd wedi datblygu â'r sector dros lawer o flynyddoedd. Mewn gwirionedd, bu'n bosibl inni edrych ar lyfrau 10 busnes, am wahanol resymau—gwnaeth busnesau newid dwylo mewn rhai achosion, gan ein hatal ni rhag edrych ar y llyfrau, neu roedd perchnogion yn sâl ac ati. Ond roedd cael gweld 10 yn dda iawn. Fodd bynnag, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, yw nad oedd y 10 hynny o anghenraid yn cynrychioli'r sector cyfan; maen nhw'n sicr yn cynrychioli pen micro a bach y sector cartrefi mewn parciau, ond nid ydyn nhw'n rhoi'r darlun i ni, mewn gwirionedd, o'r hyn sy'n digwydd yn y safleoedd cartrefi mewn parciau hynny sy'n fwy o lawer. Ond yr hyn yr oedd y dystiolaeth yn ei awgrymu'n gryf oedd bod y safleoedd llai o faint hyn yn dibynnu ar eu ffioedd comisiwn er mwyn bod yn gynaliadwy, a dyna pam yr ydym ni wedi cymryd ymagwedd fesul cam dros gyfnod mor hir—pum mlynedd—er mwyn peidio â rhoi unrhyw fath o sioc i'r system i fusnesau, ond yn hytrach, rhoi'r gallu iddynt gynllunio dros y cyfnod hwnnw.

Efallai y bydd rhai busnesau yn chwilio am ffynonellau incwm amgen neu newydd er mwyn cynyddu incwm y safle ac efallai na fyddan nhw'n penderfynu cynyddu'r ffioedd am y lleiniau, ond ceir y sicrwydd hwnnw yno y byddai angen cytuno ar unrhyw ffi am y llain sy'n uwch na'r mynegai prisiau defnyddwyr drwy fynd â'r achos i'r tribiwnlys eiddo preswyl. Byddai cyfle yn y fan honno i bob un o'r materion gael eu hystyried—hyfywedd a chynaliadwyedd y safle, barn a fforddiadwyedd ar gyfer y tenantiaid ac ati—a bydd pob un o'r materion hyn yn cael eu hystyried fesul achos gan y tribiwnlys. Felly, ni fydd y tribiwnlys yn gwneud dyfarniad ar gyfer Cymru, ar draws Cymru. Bydd yn sicr ar sail safle unigol.

Rwy'n credu fy mod wedi gallu ateb yr holl gwestiynau hynny a godwyd.