Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 6 Mehefin 2018.
Mae'r sefyllfa ôl-Brexit ar gyfer ffermio yng Nghymru yn edrych yn llwm. Gallai senedd sofran gymryd yr awenau drwy wneud canabis yn ddiwydiant tyfu newydd. Mae cymaint o ffyrdd o ddefnyddio'r planhigyn yn feddyginiaethol, ac mae'n ddiwydiant sy'n dod i'r amlwg mewn sawl rhan o'r byd. Gallai Cymru sofran reoli ein hadnoddau naturiol ein hunain, ac yn hollbwysig, gallai gael incwm ohonynt. Cefais ddigon ar weld ein hadnoddau naturiol yn cael eu hysbeilio a'u rhoi ymaith. Caiff ein dŵr ei gymryd a'i werthu yn ôl i ni. Caiff ein tai eu prynu'n un fflyd a'u rhentu yn ôl i ni. Mae'n bryd cael economi gylchol, cael lleoliaeth, a rhoi diwedd ar neoryddfrydiaeth a diwedd ar galedi.
Mae Estonia sofran newydd gyflwyno teithio am ddim i bawb yn y wlad honno. Pam? Am fod 75 y cant o'r boblogaeth wedi pleidleisio o'i blaid. Daw sofraniaeth ag opsiynau yn ei sgil. Yng Nghymru ar hyn o bryd, nid oes gennym bŵer hyd yn oed i sicrhau bod ein plant yn gallu teithio i'r ysgol yn ddiogel, oherwydd ni allwn ddeddfu ar roi gwregysau diogelwch ar fysiau gwasanaeth. Byddai gan Gymru sofran awdurdodaeth gyfreithiol annibynnol. A byddai gan bawb ran mewn Cymru sofran, byddai gan bob dinesydd hawliau a chyfrifoldebau, gyda chydraddoldeb radical i bawb. Mae gan bob talaith yn UDA gyfansoddiad, felly pam na chaiff Cymru un? Gellid seilio'r system cyfiawnder troseddol ar degwch ac adsefydlu—dim carcharu mawr, llai o garcharorion, ond cadernid pan fo angen.
Gallai Cymru sofran gael rheolaeth dros bolisi ynni. Rydym eisoes yn fwy na hunangynhaliol gyda thrydan. Gallem fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, morlynnoedd llanw—nid niwclear—a gallem allforio trydan, unwaith eto gan sicrhau elw. Gallai Senedd Cymru sofran greu chwyldro gwyrdd gydag ynni, ynni glân, sy'n costio ceiniogau inni bob mis yn hytrach na'r ffortiwn fach y mae'n ei gostio nawr. A byddai hynny'n cael effaith ganlyniadol o ran gwneud ein diwydiannau a'n busnesau yn fwy cystadleuol. Gallai Cymru sofran ailddyfeisio ac adfywio mwyngloddio, ond mewn ystyr rithiol, drwy fwyngloddio arian digidol, gan wneud elw mewn diwydiant newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae gan Gymru gymaint o botensial. Rydym yn genedl gref a gwydn, fel y profodd yr 800 mlynedd diwethaf. Yn yr ynysoedd hyn, mae angen inni droi democratiaeth ar ei ben—o'r gwaelod i fyny yn lle o'r brig i lawr. Dylem alluogi seneddau sofran yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gyda democratiaeth bellach yn dod i'r amlwg drwy'r seneddau hynny: adnewyddu democrataidd o gymunedau i fyny, datganoledig eu natur. Ar rai materion, byddai'n gwneud synnwyr i'n gwledydd rannu sofraniaeth, ond mater i bobl y gwledydd hynny fyddai penderfynu hynny.
Fe ddof i ben gyda stori am daith bws yr euthum arni yng Ngwlad yr Iâ, lle roeddem yn pasio mynyddoedd. Gallwn eu gweld ar y chwith, a chododd y tywysydd y meicroffon i egluro mai Gwlad yr Iâ, yn 1935, oedd y wlad dlotaf yn Ewrop. Roeddent mor dlawd bryd hynny fel bod pobl yn byw mewn ogofâu yn y mynyddoedd y pwyntiai atynt. Ond wedyn, eglurodd, yn 1944, daeth Gwlad yr Iâ yn wlad sofran, gan roi diwedd ar dra-arglwyddiaeth Denmarc. A dywedodd, fod ganddynt lywodraeth yng Ngwlad yr Iâ bryd hynny yn gwneud penderfyniadau er budd pobl Gwlad yr Iâ, yn cynllunio ar gyfer Gwlad yr Iâ ac nid Denmarc. Dywedodd gyda balchder mai Gwlad yr Iâ bellach yw un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd fesul y pen o'r boblogaeth. Nawr, ni chredai neb ar y bws hwnnw fod y fenyw yn genedlaetholwr, ac nid oedd hi'n honni mai dyna oedd hi. Dynes normal oedd hi, dynes a oedd eisiau'r gorau i'w theulu, i'w chymuned ac i'w gwlad, fel y pob un ohonom sy'n credu mewn sofraniaeth i Gymru. Diolch yn fawr.