Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 6 Mehefin 2018.
Mae ymraniad mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw rhwng y rhai sy'n gweld Caerdydd fel ein prifddinas ddihafal a'r rhai sy'n gweld Llundain felly. Gwn lle rwy'n sefyll. Mae gan Gymru hanes gwych. Ni oedd un o'r gwledydd cyntaf yn Ewrop i gael system cyfraith sifil o dan Hywel Dda mor bell yn ôl â'r ddegfed ganrif. Roedd Owain Glyndŵr, y gweledydd mawr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif, yn gweld Cymru fel gwlad â lle iddi yn y byd, gyda Senedd a sefydlodd ymhell cyn i Seneddau ddod yn norm. Yn ystod y chwyldro Americanaidd, roedd mwy o lofnodwyr y datganiad annibyniaeth yn hanu o Gymru nag o unrhyw wlad arall. Terfysgoedd Beca yn y gorllewin: ar y diwrnod hwn yn 1839, dinistriwyd y tollborth yn Efailwen. Cawsom wrthryfel Merthyr a'r Siartwyr yng Nghasnewydd—Cymry bob un yn awchu am sofraniaeth.
Rwy'n credu mewn sofraniaeth, ac rwyf am fyw mewn Cymru sofran, lle rydym yn sofran fel unigolion, fel cymunedau ac fel cenedl. Mae sofraniaeth yn golygu dod â llywodraethu yn agosach at y bobl, gwneud Llywodraeth yn beiriant ar gyfer dymuniadau a dyheadau pobl. Mae Llywodraeth dda, democratiaeth dda, yn ffordd o sianelu syniadau ac egni pob un ohonom. Nid corff oeraidd sydd ond yn dweud wrth bobl beth i'w wneud ydyw. Mae pawb yma yn berchen ar dŷ, ond a oes unrhyw un yma yn gadael i'w cymydog drws nesaf reoli eu cyllideb, cadw eu cyflogau, rhoi'r arian mewn cyfrif banc na allwch gael mynediad ato, gwrthod gadael i chi siarad â'ch cymdogion, a siarad â'ch cymdogion ar eich rhan? Wrth gwrs nid yw hyn yn digwydd ar lefel unigol, felly pam rydym yn caniatáu iddo ddigwydd ar lefel genedlaethol?
Gall Cymru sefyll ar ei thraed ei hun, ond yn fwy na hynny, mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i lywodraethu ein gwlad ein hunain. Ceir 100 o genhedloedd sofran yn y byd sy'n llai na Chymru. Mae gan bump allan o 10 o'r gwledydd cyfoethocaf y pen yn y byd boblogaeth lai na Chymru. Mae gan bob un o'r gwledydd cyfoethocaf y pen yn 10 uchaf y byd boblogaeth o dan 6 miliwn, ac mae gan saith gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd boblogaeth lai na ni yng Nghymru. Yng Nghymru, oherwydd bod ein heconomi'n wael, rhaid i'n pobl ifanc dalentog ac economaidd weithgar adael. Yn eu lle daw pobl hŷn, economaidd anweithgar oherwydd bod Cymru'n lle rhatach a harddach ar gyfer ymddeol.
Y peth gorau y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn yw dod yn gyfoethog. Bydd Senedd Cymru sofran yma yng Nghaerdydd yn galluogi Cymru i ddod yn gyfoethog. Mae sofraniaeth yn broses sydd eisoes wedi dechrau. Rhaid inni ddal ati ac ysgwyddo rhagor o bwerau, a herio San Steffan. Gallai Cymru sofran gael trethi teg, gyda threth gwerth tir. Gallem ddeddfu ar ddosbarthiad tir radical a theg. Gallem gynhyrchu incwm ar bobl sy'n dod i mewn i Gymru gyda threth dwristiaeth. Gallai Senedd wirioneddol sofran rymuso pobl i greu busnesau a gwneud yn siŵr fod modd gwneud busnes yn hawdd a chyflym yng Nghymru. Gellid ystyried isafswm incwm o ddifrif. Gallem ofalu am angen a pheidio â chosbi pobl am fod yn dlawd.
Rydym yn bobl mor entrepreneuraidd. Cafwyd y cytundeb £1 miliwn cyntaf ar y blaned yng Nghaerdydd, dafliad carreg o'r Cynulliad hwn, yn yr hen Gyfnewidfa Lo. Yn y gorffennol, pan oedd ein plant angen addysg, ni oedd y cyntaf i sefydlu ysgolion—Griffith Jones a'i ysgolion cylchynol enwog, a sicrhaodd mai Cymru oedd y wlad fwyaf llythrennog yn y byd erbyn 1761. Hefyd, sefydlodd gweithwyr sefydliadau ledled ein cenedl, gyda theatrau a llyfrgelloedd, a ffyrdd o helpu ei gilydd. A phwy all anghofio llwyddiant glofa'r Tŵr yn y cyfnod modern—pobl yn dod at ei gilydd, yn gweithio gyda'i gilydd, yn bachu ar eu cyfle ac yn llwyddo. Roedd glofa'r Tŵr wedi'i dynghedu i gau hyd nes i'r gweithwyr gymryd meddiant arno fel cwmni cydweithredol, a gwnaeth elw am flynyddoedd. Nid oes unrhyw un yn mynd i newid Cymru ar ein rhan; rhaid inni ddod at ei gilydd a'i wneud ein hunain.