Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Mehefin 2018.
Credaf fod gan brifysgolion rôl hanfodol yn asio eu gwaith â busnesau newydd, yn enwedig yn y sector technoleg. Credaf fod rhanbarth bae Abertawe yn dangos arbenigedd o'r radd flaenaf yn datblygu cwmnïau newydd cyffrous yn y sector technoleg. Credaf ei bod yn deg dweud bod methodoleg Creu Sbarc yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio go iawn rhwng rhanddeiliaid. Mae cydweithrediad y brifysgol mewn gweithgareddau busnes yn hollbwysig. Mae'n sbarduno twf economaidd a chredaf ei fod yn rhannu ffyniant yn decach ledled y wlad. Felly, i gefnogi hyn, cyhoeddais dendr canolfannau menter gwerth £5 miliwn yn ddiweddar, a fydd yn creu'r mannau deori a ddisgrifiodd yr Aelod ac a fydd yn ysgogi cydweithrediad ac ymddygiad entrepreneuraidd ledled y wlad.