Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 6 Mehefin 2018.
Wrth gwrs, mae'r prifysgolion yn bartneriaid allweddol yn y fargen ddinesig, ond mae mwy i’r dinas-ranbarth a’r fargen ddinesig, ac mae pob un ohonom yma, gobeithio, yn ystyried y lle yn gyrchfan wych i ymwelwyr—mae pob un ohonom yn gyfarwydd â’r Gŵyr a rhai o'r atyniadau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys cwm Afan. Ond nid yw treftadaeth a thirweddau cymoedd Castell-nedd a Dulais yn cael eu dathlu ddigon ac mae eu hawdurdod lleol yn ei chael hi'n anodd cynnal yr asedau sydd yn ei berchnogaeth, ac wrth gwrs, nid oes ganddynt dîm twristiaeth. Os ydych am i ymwelwyr ddod i aros neu ddychwelyd, mae angen iddynt deimlo eu bod yn colli rhywbeth. Felly, sut y gall potensial twristiaeth y cymoedd hyn fod yn fwy gweladwy yn ymgyrchoedd hyrwyddo Llywodraeth Cymru, ond hefyd yng ngweithgarwch tasglu’r Cymoedd?