Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am amlinellu'r hyn sy'n amlwg yn hanes blaenorol trawiadol o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer o'r gwyliau lleol hyn, wrth gwrs, yn gyfle i arddangos ein treftadaeth a'n hanes. Rwy'n siŵr eich bod yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch y tîm a fu’n gyfrifol am ŵyl ddiweddar Merthyr Rising. Dros bum mlynedd, maent wedi datblygu llwyddiant cynyddol i'r dref o gwmpas yr ŵyl, gan adeiladu ar ei hanes radicalaidd. Ond os ydym am ddefnyddio ein treftadaeth ochr yn ochr â'r gwyliau hyn i ddatblygu economïau lleol, sut y gallwn sicrhau ein bod yn cadw adeiladau hanesyddol ar agor i'r cyhoedd, megis peiriandy Ynysfach, a oedd mor ganolog i hanes gwrthryfel Merthyr ond sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers dechrau'r flwyddyn?