Economi Dinas Ranbarth Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:38, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, wrth i'r economi dyfu, mae trafnidiaeth, yn amlwg, yn un agwedd ar hynny. Gwn fod Mark Barry yn cynnig metro de Cymru, sy'n tynnu sylw at rôl y system drafnidiaeth yn ardal de Cymru ac yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn benodol, ond mae cael gwared ar orsaf Castell-nedd, sydd yn fy mwrdeistref sirol, oddi ar y brif linell yn rhan bosibl o'r cynnig hwnnw. A allwch roi sicrwydd pendant na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gynnig ar gyfer system metro yn yr ardal honno a fydd naill ai'n cau neu'n cael gwared ar orsaf Castell-nedd oddi ar y brif linell, i sicrhau y gall y bobl yn yr ardal honno gymudo ledled y rhanbarth yn rhydd gan wybod y bydd eu gorsaf yn dal i fod yno?