Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Mehefin 2018.
Rwy'n awyddus iawn i weld y cynlluniau rhanbarthol sydd wrthi'n cael eu llunio ar hyn o bryd yn ogystal â'r cynlluniau galluogi ar gyfer y sectorau sylfaen, gyda thwristiaeth yn un ohonynt, er mwyn sicrhau ein bod yn nodi'r holl gymunedau a'r holl asedau a all sbarduno'r economi ymwelwyr. Mae'r cyrchfannau penodol a nodwyd gan yr Aelod yn gyfleoedd amlwg. Yn wir, efallai y cânt eu hystyried mewn cyfnod o gyni yn faich ar yr awdurdod lleol, ond yn y tymor hwy, rwy'n hyderus y gall asedau hanesyddol—safleoedd treftadaeth sydd wedi'i chael hi'n anodd yn ddiweddar—ddod yn nodwedd bwysicach o'r cynnig a ddatblygwn i ymwelwyr, ac felly gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, wrth i'r cynlluniau rhanbarthol a'r cynlluniau galluogi gael eu datblygu ar gyfer y sectorau sylfaen, y byddwn yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio twristiaeth, bwyd a diod, manwerthu a gofal i rannu ffyniant yn fwy cyfartal ledled rhanbarthau Cymru.