Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:45, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, o bosibl, bydd y don newydd sydd ar y ffordd o ran datblygiadau technolegol mewn cerbydau trydan yn darparu llu o gyfleoedd economaidd newydd i Gymru. Rydych wedi dweud o'r blaen na fydd cynllun gweithredu economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn rhagnodol, ond a ydych yn cytuno â mi y byddai'n anghywir pe na bai'n rhagnodol mewn rhai sectorau er mwyn sicrhau cymaint â phosibl o effaith gadarnhaol gan dechnolegau newydd, gan gynnwys cerbydau trydan, ar swyddi ac ar dwf yng Nghymru?