Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:39, 6 Mehefin 2018

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae cael mynediad llawn i'r farchnad sengl Ewropeaidd trwy aelodaeth o'r farchnad honno, gan gynnwys yr undeb tollau, yn hanfodol bwysig i fusnesau yng Nghymru. Mae 60 y cant o allforion Cymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi clywed yr wythnos yma fod yr Undeb Ewropeaidd wedi dechrau cynghori busnesau yn Ewrop i feddwl ddwywaith cyn defnyddio cydrannau ceir o Brydain o hyn ymlaen. Mae'r sector cydrannau ceir yn dal i fod yn un pwysig iawn yma yng Nghymru, ac mae'r potensial o'r cyngor yma rŵan o fewn y diwydiant ar gyfandir Ewrop yn un a allai fod yn niweidiol tu hwnt. A ydych chi'n cytuno efo fi, felly, fod ymdrechion y Llywodraeth Geidwadol i dynnu Prydain allan o'r undeb tollau yn debyg o fod yn niweidiol iawn o ran y sector cydrannau ceir yng Nghymru?