Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei esboniad, sydd, wrth gwrs, yn ailadrodd yr un hen bolisïau. Mae'r Unol Daleithiau ar flaen y gad o ran y diwydiant echdynnu nwy siâl, ac mae hynny wedi arwain at gyfoeth enfawr i'r wlad honno. Mae llawer o wledydd eraill ledled y byd bellach yn ceisio manteisio ar yr adnodd newydd hwn, gan gynnwys Tsieina, Canada, Mecsico ac Indonesia, yn ogystal â gwledydd eraill yn Ewrop, sy'n cynnwys Iwerddon, Gwlad Pwyl, yr Almaen a Denmarc.