Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau'n cadarnhau yn gyson mai yng Nghymru y mae'r nifer uchaf o deuluoedd sy'n byw mewn tlodi, sef yr uchaf yn y DU ar 24 y cant, serch hynny, mae'r rheini sydd yn y Siambr hon ac ar gyflogau da wedi penderfynu na fydd nwy siâl yn cael ei echdynnu yng Nghymru, a dyna ni. Fodd bynnag, o gofio'r sefyllfa a nodir uchod, onid yw'n bryd ailwerthuso'r dystiolaeth helaeth sy'n bodoli bellach mewn perthynas â'r diwydiant hwn? Dylwn ychwanegu fy mod yn gofyn y cwestiwn hwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gan y gallai arwain at fuddion economaidd enfawr i'r wlad hon.