Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 6 Mehefin 2018.
Rydym wedi bod yn gwbl gyson, ac mae'r Aelod yn fy nghyhuddo o wneud yn fach o'r hyn a allai fod yn semanteg. Mewn gwirionedd, mae ein hymagwedd wedi bod yn glir iawn ac ni fydd yn newid. A bydd hynny'n llywio pob safbwynt y byddwn yn ei fabwysiadu o ran hysbysu ac annog Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ'r Arglwyddi. Rydym am weld mynediad at y farchnad sengl yn parhau ac rydym am fod yn aelod o undeb tollau. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at y gambl fwyaf. Ar hyn o bryd, y gambl fwyaf wrth inni adael yr UE fyddai pe bai Cymru yn gadael yr undeb rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Yr hyn sy'n hollbwysig ar hyn o bryd yw ein bod yn cynnal—[Torri ar draws.]. Mae'n wir—mae'n wir mai'r gambl fwyaf a allai ddigwydd ar hyn o bryd fyddai annibyniaeth i Gymru wrth inni ymadael â'r UE. Mae angen i ni gynnal cysylltiadau cryf a da gyda gweddill y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ac mae angen inni ddiogelu economi Cymru, yn yr un modd ag y mae angen gwarchod economi'r DU.