Ffactri Prosesu Llaeth Arla

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:17, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae'r pellter i gynhyrchwyr rhwng y safle newydd arfaethedig a'u safleoedd hwy yn golygu eu bod dan fwy o fygythiad. Ar ddiwedd eich sylwadau blaenorol, fe gyfeirioch chi hefyd at adroddiadau rwyf innau wedi'u gweld y bydd Arla yn cadw'r safle presennol yn Llandyrnog wrth iddynt archwilio cyfleoedd eraill. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd felly yn eich trafodaethau gyda hwy i ymchwilio'r cyfleoedd hynny ymhellach a'u cefnogi o bosibl, yn ogystal â'r cynnyrch a allai fod ynghlwm wrthynt, a sut y gallai hynny roi diogelwch i'r gweithlu sy'n gweithio ar y safle ar hyn o bryd, a'u teuluoedd?