Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 6 Mehefin 2018.
Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le. Mae'r sector bwyd a diod wedi dangos twf cryf yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n tyfu tuag at y targed o £7 biliwn o gyfraniad i economi Cymru. Ond yn y dyfodol, bydd mater prosesu yn ystyriaeth bwysig nid yn unig i fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, ond hefyd i'r cynllun galluogi sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer y sector bwyd a diod. Credaf ei bod yn hanfodol, yn y tymor byr, ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y cyfleuster arbennig hwn, ein bod yn edrych ar bob cyfle posibl i achub y swyddi hynny, ac rwy'n ymwybodol o adroddiadau newyddion y gallai'r cwmni fod yn ystyried cynhyrchion amgen ar gyfer y safle. Byddaf yn cyfarfod ag aelodau'r tasglu a fydd yn ymgynnull y mis hwn i drafod dyfodol y safle ac opsiynau inni allu cynorthwyo naill ai'r busnes presennol i arallgyfeirio, neu fusnes arall i gymryd meddiant ar y gwaith, os yw hynny'n bosibl.