Twristiaeth Treftadaeth a Diwylliant

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:18, 6 Mehefin 2018

Diolch yn fawr. Ers imi gymryd y cyfrifoldeb yma, rydw i wedi chwilio am bob cyfle i gynyddu a chryfhau partneriaethau rhwng y gwahanol agweddau y mae gennyf i gyfrifoldeb amdanyn nhw ar ran y Llywodraeth, sef treftadaeth a diwylliant, yn ogystal â’r celfyddydau, yn ogystal â chwaraeon a thwristiaeth. Fe welsom ni’n glir iawn yr wythnos ddiwethaf fel y mae pobl yn teithio oddi fewn a’r tu fas i Gymru i wyliau mawr fel rhan hanfodol o’n twristiaeth ni.