Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch am yr ateb hwnnw. Fel rydw i wedi ei ddweud yn ystod cwestiynau yma yn y gorffennol, mae’r sector yma’n bwysig iawn. Yn ddiweddar, fe wnes i fynd i ganolfan glowyr Resolfen i weld yr hyn y maen nhw’n ceisio ei wneud i adnewyddu’r ganolfan honno. Mae’n mynd i gymryd cryn dipyn o waith, nid yn unig cyllid ond o ran gwaith caib a rhaw gan bobl leol, ac maen nhw’n dweud, heb fod yna gyllid mewn argyfwng er mwyn ceisio mynd ati i’w hadnewyddu hi, y bydd yna botensial y bydd yn cau oherwydd bod angen iddyn nhw roi ceisiadau sydd yn cymryd lot o amser i gael y cyllid hirdymor. Felly, yr apêl sydd gennyf i ar eu rhan nhw yw eich bod chi yn edrych i mewn i bosibiliadau o gyllid byrdymor er mwyn cadw’r lle ar agor, hyd nes bod yna ddigon o gyllid i’w gadw ar agor mewn ffordd gynaliadwy i’r dyfodol ar gyfer y gymuned yn lleol. Hefyd, rydw i wedi ysgrifennu atoch chi i gynnig eich bod chi'n dod i ymweld â phobl leol—ac rwy'n hapus i hynny fod yn rhywbeth trawsbleidiol—er mwyn gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal, ac i ennyn adnewyddiaeth o'r ganolfan honno.