Cysylltiadau Trafnidiaeth yn Ninas Ranbarth Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:12, 6 Mehefin 2018

Yn troi yn ôl at ardal dinas-ranbarth Abertawe yn benodol, a theithio i mewn a mas o hynny, rydym ni wedi canolbwyntio, dros y dyddiau diwethaf, lawer ar y fasnachfraint sydd yng ngofal Llywodraeth Cymru, ond wrth gwrs mae yna, o hyd, drafnidiaeth bwysig i mewn i Abertawe, a hefyd Caerfyrddin, gyda First Great Western a gyda chwmnïau sydd yn dod i mewn i Gymru, a Network Rail o hyd sy'n berchen ar hynny. Mae'r awgrym wedi cael ei wneud gan bobl fel Stuart Cole y dylid nawr bwyso i gyflymu trenau hyd at 100 milltir yr awr ar hyd y daith yna, a gwneud y daith o Abertawe i Gaerdydd, er enghraifft, yn 40 munud yn unig. A ydy hynny'n rhywbeth mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen gydag e, gyda thrafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan?