Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 6 Mehefin 2018.
Ydy. Rydym wedi dweud yn glir ein bod yn disgwyl amseroedd teithio gwell rhwng Llundain a Chaerdydd, a hefyd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Mae'n ffaith ei bod yn cymryd mwy o amser heddiw nag yn y gorffennol i fynd o Lundain i Gaerdydd, ac felly o Lundain i Abertawe. Mae hyn yn warthus, o ystyried faint o arian sydd wedi'i ddarparu dros y degawd diwethaf neu fwy ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd mewn mannau eraill o'r DU. Felly, rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod amseroedd teithio yn lleihau, ond dylwn ddweud nad ydym mor awyddus i weld gorsafoedd yn cael eu hosgoi gan unrhyw un o wasanaethau'r brif linell. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod gan gymunedau ledled de Cymru fynediad at y brif linell, ond rhwng gorsafoedd, dylid gwneud gwelliannau i'r signalau, er enghraifft, er mwyn lleihau amseroedd teithio rhwng y cymunedau hynny.