Twristiaeth Treftadaeth a Diwylliant

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:20, 6 Mehefin 2018

Wel, diolch yn fawr i chi. Fel y gwyddoch, rwyf bellach yn drawsbleidiol iawn, ac felly rwy'n hapus iawn i ymweld â Resolfen, a gobeithio y gallwn ni drefnu hynny yn eithaf cyflym. Rwyf wedi ymweld â nifer o brosiectau sy'n ymwneud â henebion, ac mae'r cysylltiad rhwng henebion a hanes diwydiannol yn bwysig iawn imi. Mae etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru yn dathlu ein gorffennol ni, a hefyd yn dathlu crefft Cymru yn hanesyddol. Rwy'n sicr y byddai cefnogi'r math hwnnw o ddatblygiad yn ddefnyddiol. Ond y peth cyntaf y mae angen i'r bobl leol ei wneud yw sicrhau eu bod yn trafod gyda'n swyddogion ni yn Croeso Cymru ac yn Cadw. Mi allaf i hyrwyddo hynny, dim ond imi gael manylion a chyfeiriadau.