Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae cymhwyso Deddfau'r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig y Goron yn fater sy'n ffurfio rhan o ymgynghoriad y Llywodraeth ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 12 Mehefin, a buaswn yn annog Aelodau i ymateb os nad ydynt eisoes wedi gwneud.