Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae'r Goron wedi'i heithrio'n awtomatig o dan ddeddfau a basiwyd yn y lle hwn oni bai bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnwys yn benodol. Yn y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft mae yna gynnig i wrthdroi hyn fel y bydd y Goron a'i holl eiddo yn ddarostyngedig i gyfraith Cymru yn awtomatig. A allwch chi esbonio'r rhesymeg dros y newid arfaethedig hwn ac a ydych yn dal i fwriadu bwrw ymlaen?