Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod TUC Cymru wedi gofyn i'n cyd-Aelod, Mick Antoniw—mae e newydd adael—i gadeirio grŵp i edrych ar ffyrdd y gellir ymestyn bargeinio cyflog ar draws sector cyhoeddus Cymru yn ogystal ag yn y sectorau lle mae cwmnïau'n derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru. O ystyried yr hyn rydych newydd ei ddweud, a allwch amlinellu'r gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i archwilio'r opsiynau hyn gyda chyflogwyr ac undebau llafur?