Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 6 Mehefin 2018.
Yn hollol. Dyna beth roeddwn am ei ddweud: rydym angen gwasanaethau bysiau sy'n cysylltu ardaloedd preswyl, gwaith a hamdden, ac sy'n mynd ar yr adegau y mae pobl eisiau mynd i'r gwaith a mannau hamdden.
I gloi, er mwyn tyfu ein heconomi yn ne-orllewin Cymru, mae angen i ni ddatblygu ac ehangu'r cyfleoedd economaidd yn ninas-ranbarth bae Abertawe ac mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd. Felly, diolch i chi, David Melding, am gyflwyno'r ddadl hon.