6. Dadl Plaid Cymru: Sefydlu Cwmni Ynni Cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:11, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n derbyn hynny, ond rwy'n meddwl y byddai canlyniadau ymarferol yr hyn rydych yn ei gynnig yn mynd yn llawer dyfnach na hynny, ac os bydd gennyf amser, fe soniaf am y rheini.

Nid wyf yn siarad yn ysgafn am hyn. Mae prisiau ynni'n uchel ac maent yn anodd eu deall, ac efallai fod lle i sicrhau gwell cydweithredu rhwng y wladwriaeth a'r sector preifat. Felly, mae'n sicr fod angen diwygio yn y maes hwn. Nid wyf yn siŵr os caf ganiatâd i ddyfynnu Will Straw—ond rwy'n mynd i geisio, beth bynnag—sydd bellach yn gyfarwyddwr cyswllt y felin drafod chwith-canol IPPR. Dadleua am fwy o ymwneud ar ran yr awdurdodau lleol, i hyrwyddo marchnad sy'n llawer mwy cystadleuol a thryloyw na'r un sydd gennym yn awr.

Ac mae'n datgan, ac rwy'n dyfynnu:

Mae angen cyfres o ddiwygiadau marchnad arnom i wella tryloywder, lleihau grym marchnad y chwe chwmni mawr ac annog cystadleuwyr newydd i ddod i mewn i'r farchnad.

Ac mae'n parhau:

Gallai hyn gynnwys rôl bwysig i awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol yn cystadlu ar lefel leol drwy gynhyrchiant, gan gynnig gwasanaethau arbed ynni er mwyn lleihau'r galw a hyd yn oed darparu consortia cyflenwi lleol er mwyn sicrhau'r fargen orau i ddefnyddwyr.

Yn sicr, gallai hynny fod yn rhan o farchnad ynni iach, mae'n ymddangos i mi, ac mae'n llawer gwell cael y dulliau mwy cymhedrol hyn.

Mae'r pwynt ynglŷn â chynhyrchu ynni'n lleol yn un pwysig, a chredaf fod angen inni ddarparu mwy o adnoddau a chymorth yn y maes hwn. A gaf fi ddyfynnu Archie Thomas, llefarydd y Blaid Werdd ar ynni? A gaf fi wneud hynny yn gyntaf cyn imi ildio, Jenny? Mae yntau hefyd yn credu mai:

cynhyrchiant ynni lleol yw'r allwedd—ac mae'n trosgynnu'r cwestiwn ynglŷn ag a yw'r cewri pŵer fod mewn dwylo cyhoeddus neu breifat.

A dyfynnaf:

Nid cwmnïau ynni preifat neu wedi'u gwladoli yw'r dyfodol go iawn i ynni ond ynni carbon isel sy'n eiddo i gymunedau lleol ac wedi'i reoli ganddynt.

Mae ar bobl angen pŵer dros eu hynni eu hunain, ac nid ydych o reidrwydd yn cael hynny mewn system wedi'i gwladoli. Fe ildiaf.