6. Dadl Plaid Cymru: Sefydlu Cwmni Ynni Cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:13, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Er fy mod yn derbyn nad ydych yn frwd dros wladoli, a gytunwch nad yw'r Almaen yn economi sosialaidd i'r carn ac yno, yr hyn sydd gennym yw cwmnïau ynni lleol yn blodeuo sy'n darparu cystadleuaeth briodol o fath nas gwelir yn y DU? A fyddech chi a'r Blaid Geidwadol yn cytuno bod hwnnw'n fodel y dylem fod yn anelu tuag ato yma yng Nghymru?