Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Mehefin 2018.
Wel, materion i'r Comisiwn yw'r rheini, mewn gwirionedd, o ran y system ddeisebau, ond clywaf yr hyn y mae'n ei ddweud. Cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn fel Llywodraeth, yn amlwg bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei lywio gan ei ymgynghoriad ac yna cawn ni ein llywio gan safbwyntiau Cyfoeth Naturiol Cymru ac, wrth gwrs, drwy edrych ar yr ymgynghoriad ei hun. Felly, mae'r system ddeiseb yn un peth, ond nid yw'n rhan ffurfiol, wrth gwrs, o ymgynghoriad Llywodraeth.