1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2018.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o saethu ar y tir y mae'n ei reoli. OAQ52335
Gwnaf. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a bydd angen i Weinidogion Cymru ystyried yn llawn unrhyw gynigion y mae CNC yn eu llunio.
Diolch am yr ateb yna. Bu pryder dealladwy ynghylch y tendr ar gyfer yr adolygiad o dystiolaeth i adolygiad saethu Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n deall mai un cais yn unig a dderbyniwyd a bod un o'r ddau academydd a gyflogwyd i wneud y gwaith yn cyfaddef bod ganddo ddiddordeb brwd mewn saethu. Rwy'n deall, wrth gwrs, mai corff hyd braich yw Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae gen i ac eraill bryder ynghylch y tegwch o ran sut y cynhaliwyd yr adolygiad hwn yng ngoleuni'r hyn yr wyf i newydd ei esbonio. Mae arolygon barn yn dangos bod symudiad eglur yn erbyn cael saethu ar dir Llywodraeth Cymru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n ymrwymo mewn adolygiadau o'r fath yn y dyfodol i sicrhau eu bod nhw'n dryloyw ac y gall pobl ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, oherwydd rwy'n teimlo y bu methiant yn hyn o beth oherwydd na fu gan bobl yr ymddiriedaeth efallai y bydden nhw wedi dymuno ei chael yn yr adolygiad penodol hwn oherwydd y gwrthdaro buddiannau posibl sydd gan un o'r academyddion.
Mae'r Aelod yn codi mater nad wyf i'n ymwybodol ohono. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu ati hi felly i'r roi sicrwydd y byddai ei angen arni?FootnoteLink Yn amlwg, mae'n fater y mae angen rhoi sylw manylach iddo.
Prif Weinidog, o'm safbwynt i, rwyf i'n eithaf hamddenol ynghylch hyn, gan fod 19 o arbenigwyr wedi cymryd rhan yn y broses hon ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dechrau o'r economegydd, yr ystadegydd uwch, rheolwyr bywyd gwyllt, eu hadaregydd, ecolegwyr coetir a gofodol, arweinydd tîm hamdden, iechyd a llesiant—. Ni wnaf i ddarllen pob un o'r 19 yn uchel. Yr hyn y mae gen i bryder gwirioneddol yn ei gylch yw fy mod i'n credu ei bod hi'n debygol bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyrraedd safbwynt y maen nhw wedi ei fynegi sy'n seiliedig ar gyngor a barn arbenigol; fodd bynnag, ceir deiseb fawr iawn hefyd a gyflwynwyd sy'n cynnwys nifer fawr o lofnodion, y mae'n ymddangos bod llawer iawn ohonyn nhw o'r tu allan i Gymru. Fy nghwestiwn i chi yw hyn: ar ôl i ran gyntaf yr ymgynghoriad hwn gael ei roi ar waith mewn modd mor drylwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a allwn ni gymhwyso'r un trylwyredd i'r rhai hynny a allai ein deisebu ni o'r tu allan i'n gwlad ynghylch yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud yn ein gwlad, ac ar ein tir, a chan ein pobl?
Wel, materion i'r Comisiwn yw'r rheini, mewn gwirionedd, o ran y system ddeisebau, ond clywaf yr hyn y mae'n ei ddweud. Cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn fel Llywodraeth, yn amlwg bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei lywio gan ei ymgynghoriad ac yna cawn ni ein llywio gan safbwyntiau Cyfoeth Naturiol Cymru ac, wrth gwrs, drwy edrych ar yr ymgynghoriad ei hun. Felly, mae'r system ddeiseb yn un peth, ond nid yw'n rhan ffurfiol, wrth gwrs, o ymgynghoriad Llywodraeth.
Vikki Howells.
Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i—.
Iawn, fe symudwn ni ymlaen.
Cwestiwn 6—Jenny Rathbone.