Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 12 Mehefin 2018.
Wel, mae'r cyhoeddiadau hyn yn aml yn dod gydag ychydig neu ddim rhybudd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud wrth gwrs o dan yr amgylchiadau hynny yw dau beth: yn gyntaf oll, gwneud yn siŵr bod Busnes Cymru yn ceisio trafod y dyfodol gyda'r cwmni, ac, yn ail, wrth gwrs, darparu cymorth i'r gweithwyr yr effeithir arnynt, gan gynnwys trwy gynllun ReAct, er mwyn eu helpu nhw i nodi ffynonellau cyflogaeth eraill. Nid yw bob amser yn wir, lle mae achosion o gau safleoedd yn cael eu cyhoeddi, neu eu cynnig—gan ei fod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd—ein bod ni'n cael rhybudd sylweddol, neu weithiau, unrhyw rybudd o gwbl.