Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 12 Mehefin 2018.
Rydym ni'n buddsoddi bron i £50 miliwn y flwyddyn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau, ac yn rhan o hyn, rydym ni'n cymryd amrywiaeth o gamau i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol. Mae hynny'n cynnwys cynorthwyo gwasanaethau a gomisiynir gan fyrddau cynllunio ardal, a hefyd, wrth gwrs, y prynhawn yma, cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).