1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2018.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol? OAQ52333
Rydym ni'n buddsoddi bron i £50 miliwn y flwyddyn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau, ac yn rhan o hyn, rydym ni'n cymryd amrywiaeth o gamau i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol. Mae hynny'n cynnwys cynorthwyo gwasanaethau a gomisiynir gan fyrddau cynllunio ardal, a hefyd, wrth gwrs, y prynhawn yma, cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).
Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Heddlu Gwent gyflwyniad cynllun lle bydd troseddwyr tro cyntaf troseddau lefel isel, gan gynnwys 'meddw ac afreolus', yn cael cyfle i fynd ar gwrs yn hytrach na wynebu'r llys. Bydd y cwrs yn cael ei gynnig i unigolion yn ôl disgresiwn yr heddlu a heb unrhyw gost i'r cyhoedd, yn debyg iawn i gwrs ymwybyddiaeth cyflymder. Heddlu Gwent yw'r heddlu cyntaf yng Nghymru i gynnig cynllun o'r fath yn rhan o'i strategaeth ehangach i fynd i'r afael â phroblemau alcohol, lleihau aildroseddu a leddfu pwysau ar y system cyfiawnder troseddol. Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, elusen sy'n darparu cymorth a chyngor i unigolion a theuluoedd, wedi croesawu'r cynllun hwn. A all y Prif Weinidog nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon yfed gormod o alcohol? A sut gwnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda'r heddlu ac eraill i leihau troseddu sy'n gysylltiedig ag alcohol?
Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da iawn. Pan ddechreuais i gyntaf, flynyddoedd lawer yn ôl, fel cyfreithiwr, roedd hi'n aml yn wir pan oedd gennym ni ddau ŵr ifanc—gwŷr ifanc oedden nhw yn anochel—a oedd efallai wedi bod yn ymladd â'i gilydd mewn diod ar Ffordd y Brenin yn Abertawe, a oedd yn dipyn o leoliad ar gyfer pethau o'r fath yn y dyddiau hynny, os teimlwyd na fyddent yn achosi trafferth i'r heddlu na'r llysoedd eto, roedden nhw'n cael eu rhwymo i gadw'r heddwch, a oedd yn golygu nad oedd ganddynt euogfarn droseddol. Roedden nhw'n ofnus, a dweud y gwir; roedd yn codi ofn arnyn nhw rhag dychwelyd i'r llys ac roedd, i bob pwrpas, yn ffordd o sicrhau eu hymddygiad da. Mae hyn yn mynd gam ymhellach, oherwydd mae'n helpu pobl i ddeall effeithiau alcohol a chamddefnyddio alcohol. Mae'n debyg mai hwn yw'r estyniad i gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder mewn rhai ffyrdd, y mae pobl—nid fi, dylwn ychwanegu, ond rhai pobl—wedi canfod eu hunain yn rhan ohonynt. Mae'n ffordd dda o addysgu pobl. Os gallwn ni addysgu pobl allan o ymddygiad, yna mae hynny'n well na'u cosbi nhw heb fynd i'r afael â gwraidd yr ymddygiad hwnnw.
Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd y bydd gwaharddiad ar alcohol yn cael ei dreialu mewn rhan o Stadiwm Principality Cymru yn ystod gemau rygbi rhyngwladol yr hydref. Mae hyn yn dilyn cwynion am ymddygiad pobl feddw yn difetha gemau i gefnogwyr eraill, a daethpwyd i'r casgliad bod 87 y cant yn dioddef llu o ymosodiadau llafar. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu'r cam hwn i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol mewn gemau rygbi rhyngwladol? A wnaiff ef ymrwymo i drafod hyn gyda chyrff chwaraeon eraill gyda'r nod o ymestyn y gwaharddiad i gampau a lleoliadau eraill lle mae camddefnyddio alcohol yn broblem yng Nghymru?
Credaf fod dau fater yma yn y stadiwm: yn gyntaf oll, ymddygiad rhai cefnogwyr. Mae meddwdod wedi bod yn rhan o dorfeydd ers llawer iawn o ddegawdau. Nid yw hynny'n esgus, wrth gwrs, am y ffordd y mae rhai pobl yn ymddwyn. Os bydd pobl yn ymddwyn mewn ffordd sy'n wrthun neu'n mynd yn groes i drefn gyhoeddus, yna dylid hysbysu stiwardiaid a dylai'r bobl hynny gael eu rhybuddio ac, os na fyddant yn cymryd sylw o'r rhybudd, dylid eu taflu allan o'r stadiwm. Yr ail bwynt yw bod llawer o bobl yn cwyno eu bod nhw i fyny ac i lawr ar eu traed drwy'r amser wrth i bobl fynd yn ôl ac ymlaen i'r bariau i brynu alcohol. Mae'n ymddangos i mi nad oes angen i bobl brynu alcohol trwy gydol y gêm er mwyn mwynhau'r gêm, a chredaf fod hwn yn gynllun arbrofol pwysig—os gallaf ei alw'n hynny—sy'n cael ei arloesi er mwyn gweld beth fydd yr effaith.