Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 12 Mehefin 2018.
Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau partner a'r cyhoedd i fynd i'r afael â bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru. Rwy'n cydnabod bod clymog Japan yn broblem sylweddol. Rydym ni wedi mynd ati i ariannu treialon arloesol. Dau beth: yn gyntaf oll, triniaethau cemegol, ond yn ail, rheoli biolegol, trwy ddefnyddio ysglyfaethwr llyslau naturiol. Wrth gwrs, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus wrth wneud hynny rhag ofn i chi gyflwyno problem fwy fyth, fel y bydd yr Awstraliaid yn dweud wrthych chi, gyda rhai o'r pethau y maen nhw wedi ei wneud—gyda chansenni siwgwr, yn arbennig. Ond serch hynny, mae'r treialon hynny yn rhai yr ydym ni wedi eu hariannu er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.