1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2018.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan glymog Japan? OAQ52298
Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau partner a'r cyhoedd i fynd i'r afael â bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru. Rwy'n cydnabod bod clymog Japan yn broblem sylweddol. Rydym ni wedi mynd ati i ariannu treialon arloesol. Dau beth: yn gyntaf oll, triniaethau cemegol, ond yn ail, rheoli biolegol, trwy ddefnyddio ysglyfaethwr llyslau naturiol. Wrth gwrs, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus wrth wneud hynny rhag ofn i chi gyflwyno problem fwy fyth, fel y bydd yr Awstraliaid yn dweud wrthych chi, gyda rhai o'r pethau y maen nhw wedi ei wneud—gyda chansenni siwgwr, yn arbennig. Ond serch hynny, mae'r treialon hynny yn rhai yr ydym ni wedi eu hariannu er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae clymog yn broblem ddifrifol yn Abertawe, yn enwedig yn fy etholaeth i, ond rwy'n siŵr y gallai Julie James ddweud yn union yr un peth wrthych chi am Orllewin Abertawe hefyd. Er bod yr arbrawf gydag ysglyfaethwr naturiol a gwell triniaethau cemegol i'w croesawu, mae gennym ni ardaloedd o letem las lle mae clymog wedi dod yn broblem. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i atal tir lletem las rhag cael ei lenwi gan glymog, fel y bydd yn llain glymog yn hytrach na llain las?
Wel, yn y pen draw, wrth gwrs, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw rheoli clymog Japan ar ei dir. Gallaf ddweud ein bod ni wedi dyfarnu £50,000 i bum cyngor yn ddiweddar drwy'r cynllun ariannu seilwaith gwyrdd i ymgymryd â phrosiect i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion estron goresgynnol ar dros 1,000 o safleoedd ledled y pum sir hynny. Bydd hefyd yn hyfforddi gwirfoddolwyr cymunedol i helpu i reoli'r planhigion hynny, a chyhoeddwyd taflen wybodaeth wedi'i diweddaru gennym yn ddiweddar ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol, sy'n cynnwys cyngor ar gamau ar dir y maen nhw'n ei reoli.
Maen nhw'n dweud mai dim ond rhai pethau fydd yn goroesi cyflafan niwclear yn y wlad hon: E.coli yw un ohonynt, chwilod duon yw'r ail, a'r trydydd—y sicrwydd y bydd y cwestiwn hwn yn parhau i godi ar y papur trefn yn y lle hwn.
Efallai eich bod wedi clywed yn ddiweddar y bu rhai syniadau efallai y dylem ni fwyta mwy o'r clymog Japan yma gan ei fod yn llawn fitaminau a mwynau. Ni allwn fwyta ein ffordd allan o'r broblem hon, yn amlwg, felly fy mhrif gwestiwn i chi yw: a ydych chi wedi cael unrhyw wybodaeth gan awdurdodau lleol y bu unrhyw ddympio anghyfreithlon o glymog Japan yn ein safleoedd tirlenwi?
Nid fy mod i'n ymwybodol ohono, ond rwy'n siŵr bod enghreifftiau ohono. Nid wyf i wedi—. Mae hwnna'n ddull rheoli biolegol nad wyf i wedi ei glywed yn cael ei gynnig o'r blaen. Nid oeddwn i'n ymwybodol bod modd bwyta clymog Japan a dweud y gwir. Mae'n debyg y dylwn i ychwanegu'r cafeat, os oes unrhyw un yn gwylio hyn: peidiwch â rhoi cynnig ar hyn gartref tan iddo gael ei brofi'n llwyr. Mae arweinydd y tŷ yn dweud wrthyf ei fod yn gwbl ofnadwy; ni wnaf i ofyn iddi ai profiad personol yw hynny ai peidio, ond nid yw'n argymhelliad ganddi hi. Bwytadwy ond ofnadwy—[Chwerthin.]—dyna yw safbwynt y Llywodraeth ar fwyta clymog Japan.
Ceir pwynt pwysig yma: mae clymog yn rhywogaeth arbennig o oresgynnol—hawdd ei symud o gwmpas—ac, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n chwilio am ffyrdd newydd o'i reoli, ond hefyd, wrth gwrs, yr ymdrinnir ag unrhyw fath o anghyfreithlondeb o ran ei ddympio cyn gynted â phosibl.
Mae'n ffaith adnabyddus mai clymog Japan yw un o'r planhigion mwyaf niweidiol i gael ei gyflwyno i ynysoedd Prydain erioed. Rwy'n deall bod gan gynghorwyr lleol ddyletswydd i reoli plâu clymog. Gan fod y plâu hyn yn gallu achosi trafferthion mewn tai preifat, mae'n hanfodol bod y rheolaethau hyn ar waith, ac eto mae hyd yn oed arsylwi arwynebol o ardaloedd sy'n bennaf drefol yn dangos ei bod yn ymddangos nad yw mesurau rheoli yn cael eu cymhwyso. A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried ailgyhoeddi canllawiau, ac efallai nodyn i atgoffa cynghorau lleol am eu dyletswydd yn hyn o beth?
Wel, rwy'n credu fy mod i wedi cyfeirio ychydig yn gynharach at y canllawiau yr ydym ni wedi eu darparu yn ddiweddar—canllawiau wedi'u diweddaru—yn yr ateb a roddais i'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Mae'r rheini ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol, ac yn eu cynghori ar gamau y gallan nhw eu cymryd. A bydd awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn ymwybodol o unrhyw gyfrifoldebau statudol sydd ganddynt.