Llygredd Aer yng Nghaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:04, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Un o'r rhesymau y mae Caerdydd wedi dioddef o ansawdd aer gwael yn y gorffennol—ac yn dal i ddioddef yn ôl achosion llys diweddar—yw'r gweithfeydd llygru mawr ar gyrion Caerdydd. Aethpwyd ag Aberddawan, er enghraifft, i'r llys ar fwy nag un achlysur. Mae'n wirioneddol bwysig, rwy'n credu, wrth i ni ddatblygu ein seilwaith ynni, bod gennym ni'r adnoddau cywir, gan gynnwys asesiadau o'r effaith amgylcheddol ar unrhyw ddatblygiadau newydd. Mae wedi bod o bryder mawr i lawer o bobl yng Nghymru nad yw llosgydd y Barri a gynigiwyd ac sy'n dal yn mynd rhagddo ar hyn o bryd wedi bod yn destun asesiad effaith amgylcheddol lawn. Mae'n anodd iawn barnu ansawdd yr aer a fydd yn effeithio ar bobl yn y Barri ac yng Nghaerdydd os na fyddwn yn cynnal asesiad effaith amgylcheddol o'r fath. Gwn fod y Gweinidog dros yr amgylchedd yn ystyried pa un a ddylai orchymyn asesiad effaith amgylcheddol llawn o'r fath. A wnewch chi, fel Prif Weinidog, sicrhau bod hynny'n cael ei wneud i drigolion y Barri, ac i ardal ehangach y de?