1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2018.
6. Pa gamau ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yng Nghaerdydd? OAQ52306
Rydym ni wedi cyflwyno cyfarwyddyd i gyngor Caerdydd yn eu gwneud hi'n ofynnol iddyn nhw gynnal astudiaeth o ddichonoldeb i nodi'r dewis neu'r dewisiadau a fydd yn sicrhau cydymffurfiad â therfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid, yn yr ardaloedd y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, yn y amser byrraf posibl.
Mae hwn yn amlwg yn fater difrifol iawn gan fod gennym ni'r potensial o gamau cyfreithiol pellach yn yr Uchel Lys yn ein hwynebu os ystyrir nad ydym ni'n mynd i'r afael â'r broblem iechyd fawr hon cyn gynted â phosibl. Mae'r contract KeolisAmey ar gyfer darparu rheilffordd a metro i'w groesawu'n fawr. Bydd y Wi-Fi cynyddol ar y trenau yn annog mwy o gymudwyr i wneud y peth iawn a gweithio tra eu bod nhw'n teithio yn hytrach nag eistedd yn eu ceir, ac mae'r cerbydau ychwanegol ac amlder ychwanegol y trenau hefyd yn bwysig iawn i gael y newid moddol hwnnw sydd ei angen arnom ni. Ond roeddwn i'n meddwl tybed pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru i nodi llwybrau tram newydd i wasanaethu dwyrain Caerdydd yn arbennig, yn ogystal â de Caerdydd, na all elwa ar uwchraddio'r rheilffyrdd maestrefol presennol? A, hefyd, pa drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi eu cael gyda chyngor Caerdydd ynghylch y posibilrwydd o dâl neu ardoll atal tagfeydd, neu'r angen am hynny?
Wel, mater i gyngor Caerdydd fydd y mater o dâl atal tagfeydd. O ran y metro, egwyddor sylfaenol y metro yr oeddwn i eisiau ei sicrhau oedd y byddai modd ei ymestyn. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod yn rhaid i'r metro edrych fel mae dulliau eraill o drafnidiaeth, fel rheilffordd ysgafn, gan fod rheilffordd ysgafn yn haws o lawer i'w hymestyn na rheilffordd drom. Yr enghraifft gyntaf o hynny fyddai'r rheilffordd i lawr i'r bae yma yn 2023, ond ceir camau eraill. Mae dwyrain Caerdydd yn cael ei wasanaethu'n wael gan y rhwydwaith rheilffyrdd—bydd parcffordd Caerdydd yn gwella'r sefyllfa, ond nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun. Ceir cynlluniau yng nghamau'r metro yn y dyfodol i ystyried rheilffordd ysgafn/tram, ar gyfer ardal ddwyreiniol Caerdydd. Rwyf i wedi gweld y mapiau i wneud yn siŵr bod y bwlch sy'n bodoli yno yn cael ei lenwi yn y dyfodol. Felly, ni fwriedir i fap y metro fel y mae ar hyn o bryd ddangos ei lawn gyrhaeddiad, ond bydd cyfle i ymestyn y metro trwy reilffyrdd ysgafn i rannau o Gaerdydd sydd wedi cael eu gwasanaethu’n wael yn y gorffennol.
Prif Weinidog, mae llawer o ddinasoedd ledled y byd yn ymdrechu i fod yn garbon niwtral, rhai erbyn mor gynnar â 2025, ac mae'n amlwg y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd yr aer. Mae maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, wedi symud eu targed nhw ar gyfer niwtraledd carbon ddegawd yn ei flaen. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod yr angen am fwy o uchelgais yma ac wedi galw am i Gaerdydd fod y brifddinas carbon niwtral gyntaf yn y DU. Tybed a ydych chi'n rhannu'r math hwn o uchelgais.
Credaf ei fod yn eithriadol o uchelgeisiol. Credaf ei fod yn rhywbeth y gellir ei gyflawni o bosibl; mae'n rhywbeth y gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno ei gyflawni hefyd. Ni allwn aros i'r dechnoleg ddarparu'r gostyngiadau yr ydym ni eu heisiau ar ei phen ei hun, ond mae angen i ni gynnig i bobl, wrth gwrs, gwasanaeth cyfforddus, am bris rhesymol, mynych sy'n eu denu o'u ceir, a dyna y bwriedir i'r metro ei wneud, gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo mai'r unig ffordd o gyrraedd y gwaith iddyn nhw yw teithio mewn car.
Un o'r rhesymau y mae Caerdydd wedi dioddef o ansawdd aer gwael yn y gorffennol—ac yn dal i ddioddef yn ôl achosion llys diweddar—yw'r gweithfeydd llygru mawr ar gyrion Caerdydd. Aethpwyd ag Aberddawan, er enghraifft, i'r llys ar fwy nag un achlysur. Mae'n wirioneddol bwysig, rwy'n credu, wrth i ni ddatblygu ein seilwaith ynni, bod gennym ni'r adnoddau cywir, gan gynnwys asesiadau o'r effaith amgylcheddol ar unrhyw ddatblygiadau newydd. Mae wedi bod o bryder mawr i lawer o bobl yng Nghymru nad yw llosgydd y Barri a gynigiwyd ac sy'n dal yn mynd rhagddo ar hyn o bryd wedi bod yn destun asesiad effaith amgylcheddol lawn. Mae'n anodd iawn barnu ansawdd yr aer a fydd yn effeithio ar bobl yn y Barri ac yng Nghaerdydd os na fyddwn yn cynnal asesiad effaith amgylcheddol o'r fath. Gwn fod y Gweinidog dros yr amgylchedd yn ystyried pa un a ddylai orchymyn asesiad effaith amgylcheddol llawn o'r fath. A wnewch chi, fel Prif Weinidog, sicrhau bod hynny'n cael ei wneud i drigolion y Barri, ac i ardal ehangach y de?
Mae'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried, fel y dywed yr Aelod, gan y Gweinidog; mae'n fater iddi hi ei ystyried ymhellach. Mae'n iawn i ddweud mai un o'r pethau y mae angen i ni ei wneud yw edrych ar ffyrdd o leihau ôl troed carbon y broses cynhyrchu ynni, a dyna pam mae angen y morlyn llanw arnom ni. Mae'n debyg bod cyhoeddiad am gael ei wneud ddoe; mae hwnnw wedi ei ohirio. A honnir y bydd cyhoeddiad tuag at ddiwedd yr wythnos, os bydd y Llywodraeth yn dal i fodoli bryd hynny, yn wir. Dim byd o hyd.
Mae'n cytuno â hyn, rwy'n gwybod, ond y cwbl yr ydym ni wedi ei ofyn yw y dylai Cymru gael ei thrin yn yr un modd â Hinkley. Nid ydym ni'n gofyn am fwy na hynny, ond rhowch yr un chwarae teg i ni, yr un chwarae teg, ag y mae Hinkley wedi ei gael. Nawr, cyfrifoldeb y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru, ac yn wir yn San Steffan, yw dangos y gallan nhw gyflawni i Gymru yr hyn y maen nhw eisoes wedi ei gyflawni mewn rhannau o Loegr. Dyna eu prawf—a allwn nhw ddangos y gallan nhw lwyddo?